Meinir Mathias Artist

Directions Website Contact the establishment

Meinir Mathias Artist To contact the artist directly for commission enquiries please email:
[email protected]

Website: meinirmathias.com

Agoriad hyfryd yn Canfas  heno i'r Arddangosfa yn  Aberteifi Eisteddfod   Braf i weld ffrindiau ac artistiaid . A wonder...
01/08/2026

Agoriad hyfryd yn Canfas heno i'r Arddangosfa yn Aberteifi Eisteddfod Braf i weld ffrindiau ac artistiaid .
A wonderful exhibition in Canfas Gallery tonight in Cardigan Eisteddfod Genedlaethol Cymru.

Agoriad hyfryd i arddangosfa Aur Canfas Eisteddfod Genedlaethol Cymru   Mor braf i weld llawer o hen ffrindiau ac artist...
01/08/2026

Agoriad hyfryd i arddangosfa Aur Canfas Eisteddfod Genedlaethol Cymru Mor braf i weld llawer o hen ffrindiau ac artistiaid Cymreig yn Aberteifi.

A lovely opening to the exhibition at Canfas gallery this evening. Great to see many friends and fellow artists in Cardigan.

I’m pleased to have Cario’r Cof and Dawns y Werin included in 'Aur' at Gallery Canfas, Cardigan, an exhibition of former...
24/07/2026

I’m pleased to have Cario’r Cof and Dawns y Werin included in 'Aur' at Gallery Canfas, Cardigan, an exhibition of former Fine Art Gold Medal winners and prize recipients from Y Lle Celf .
It’s particularly wonderful to be exhibiting Cario’r Cof alongside work by Ivor Davies, having received the Ivor Davies Prize for my painting Dwylo Gleision at the Lle Celf. The exhibition also includes work by artists including Iwan Bala, Shani Rhys James, Sean Vicary, Angharad Pearce Jones, and many other major influential Welsh artists.

Cario’r Cof explores themes of memory and cultural inheritance through symbolic references to the events at Efailwen, the Preseli landscape and rural Welsh life and resistance, while Dawns y Werin reflects on the continuity of community .
If you’re in Cardigan over the coming weeks, do call in to see the exhibition. I saw it being set up today and it's a real treat of show. ......................
Rwy’n falch iawn fod Cario’r Cof a Dawns y Werin wedi’u cynnwys yn ‘Aur’ yn Oriel Canfas, Aberteifi, arddangosfa sy’n dod â chyn-enillwyr y Fedal Aur Celfyddyd Gain ac enillwyr gwobrau Y Lle Celf ynghyd.
Mae’n arbennig o braf gweld Cario’r Cof yn cael ei arddangos ochr yn ochr â gwaith Ifor Davies, ar ôl derbyn Ifor Davies am fy mhaentiad Dwylo Gleision yn Y Lle Celf. Mae’r arddangosfa hefyd yn cynnwys gwaith gan artistiaid fel Iwan Bala, Shani Rhys James, Sean Vicary, Angharad Pearce Jones, ynghyd â nifer o artistiaid Cymreig dylanwadol eraill.
Mae Cario’r Cof yn archwilio themâu cof ac etifeddiaeth ddiwylliannol drwy gyfeiriadau symbolaidd at ddigwyddiadau Efailwen, tirwedd y Preseli, bywyd gwledig a gwrthsafiad, tra bo Dawns y Werin yn myfyrio ar barhad cymuned a thraddodiad.

Os ydych yn ardal Aberteifi dros yr wythnosau nesaf, ewch draw i weld yr arddangosfa. Ces i gip arni heddiw wrth iddi gael ei gosod, ac mae’n arddangosfa arbennig iawn.

Eisteddfod Genedlaethol Cymru Canfas

Taith yr arglwydd Rhys - Talgarreg ar heuldro'r haf. Prynhawn bendigedig. ⭐️⭐️❤️❤️🌀🌀🌀 Welcoming the Arglwydd Rhys to Tal...
21/06/2026

Taith yr arglwydd Rhys - Talgarreg ar heuldro'r haf. Prynhawn bendigedig. ⭐️⭐️❤️❤️🌀🌀🌀 Welcoming the Arglwydd Rhys to Talgarreg on this summers soltice ahead of the National Eisteddfod of Wales. .ladd

10/06/2026

Ymunwch â ni am achlysur arbennig iawn wrth i ni ddadorchuddio cerflun newydd yn anrhydeddu Elizabeth Andrews- sosialydd, swffragydd ac ymgyrchydd cymunedol arloesol o Gymru.
Dydd Iau 25 Mehefin
12.00pm
Amgueddfa Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Trehafod
Mae'r achlysur yma'n nodi'r pumed cerflun a'r cerflun olaf i gael ei osod yn rhan o brosiect ysbrydoledig Monumental Welsh Women, sy'n dathlu cyfraniadau anhygoel menywod o Gymru ac yn gwneud y cyhoedd yn fwy effro iddyn nhw.
Mae'r prosiect eisoes wedi dod â cherfluniau o Betty Campbell (Caerdydd), Dr Elaine Morgan (Aberpennar), Cranogwen (Llangrannog), ac Arglwyddes Rhondda (Casnewydd) yn fyw, ac maen nhw oll bellach yn dirnodau gwerthfawr.
Byddwch yn rhan o hanes wrth i ni gwblhau'r daith genedlaethol bwerus yma.
Croeso i bawb
Dewch o hyd i ni yma 👉 https://orlo.uk/QawQP

Dyma ffilm fer gan ffilmydd; Heledd Wyn sy’n cynnig ffenestr fach ar fy myd creadigol, gan archwilio rhai o’r syniadau, ...
03/06/2026

Dyma ffilm fer gan ffilmydd; Heledd Wyn sy’n cynnig ffenestr fach ar fy myd creadigol, gan archwilio rhai o’r syniadau, yr ysbrydoliaeth a’r dylanwadau sydd wrth wraidd fy ngwaith yn cynnwys y Preselis

A short film by ffilmmaker Heledd Wyn offering a small window into my creative world, exploring some of the ideas, inspirations and influences behind my work including the Preseli's x

Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales

A short film offering a small window into the thought processes and...

Y Dryw bach / The little wren(*please see below for English translation) Oil Painting/ paentiad OlewMae Y Dryw bach yw u...
02/06/2026

Y Dryw bach / The little wren
(*please see below for English translation)
Oil Painting/ paentiad Olew

Mae Y Dryw bach yw un o’r gweithiau mwyaf personol yn yr arddangosfa Cyfarwydd, yn gorwedd rhywle rhwng cof, hanes teuluol a dychymyg.
Er bod y plentyn yn cynrychioli fi fy hun yn ifanc, mae’r ffigwr wedi’i fodelu ar fy nith, Miri, ysbryd rhyfeddol llawn chwilfrydedd a syndo a wnaeth ysbrydoli'r paentiad. Wrth estyn tuag at y ffenestr agored, mae dryw yn glanio ar ei llaw. Nid aderyn sydd wedi’i ddal na’i ddofi mohono, ond un sy’n dod o’i wirfodd, yn canu o’i llaw estynedig. Mae’r berthynas rhwng y ddau yn awgrymu ymddiriedaeth, cysylltiad a sensitifrwydd at y byd naturiol.
Mae’r dirwedd y tu hwnt yn perthyn i Fryniau’r Preseli, tir fy mhlentyndod, ond mae wedi’i hidlo drwy gof yn hytrach na daearyddiaeth. Fel llawer o’r gweithiau yn Cyfarwydd, mae’n byw mewn gofod rhwng y cofiedig a’r dychmygol.
Mae gan y bwthyn gwyn bach yn y pellter stori arbennig o bersonol. Roedd gan fy Mamgu a Tadcu (Mama &Dats) fwthyn bach addurnol yn eu gardd, wedi’i fodelu ar hen fwthyn yn y pentref yr oedd fy nhadtcu yn ei gofio o’i blentyndod ac a oedd wedi perthyn i’n cyndeidiau. Treulion ni oriau yn chwarae o’i gwmpas fel plant, yn casglu gwair o’r perci, yn ei roi i lawr y shimne ac yn ei gynnu i weld mwg yn codi o’r to. Mae’r atgofion hynny wedi aros yn fyw iawn, ac wedi’u gwehyddu i’r paentiad fel symbolau o gartref, etifeddiaeth a’r straeon sy’n cael eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.
Mae’r dryw ei hun wedi dal lle arbennig mewn llên gwerin a chaneuon traddodiadol Cymru ers canrifoedd. Er ei faint bach, mae’n aderyn gwydn a phwerus, ac yma mae’n gweithredu fel negesydd rhwng plentyndod a chof, gan gario adleisiau o le, teulu a pherthyn.
.........................

The Little Wren

One of the most personal paintings in Cyfarwydd, The Little Wren sits somewhere between memory, family history and imagination.
Although the child represents myself as a young girl, the figure is modelled on my niece, Miri, whose sense of wonder and curiosity inspired the painting. Reaching towards the open window, she is joined by a wren, not a bird captured or tamed, but one that comes willingly, singing from her outstretched hand. The relationship is one of trust, connection and attentiveness to the living world.
The landscape beyond belongs to the Preseli Hills of my childhood, though it is filtered through memory rather than geography. Like many of the paintings in Cyfarwydd, it occupies a space between the remembered and the imagined.
The small white cottage in the distance carries a particularly personal story. My grandparents kept a miniature cottage in their garden, modelled on an older house in the village that my grandfather remembered from childhood and which had belonged to our ancestors. As children, we played around it endlessly—gathering hay from the fields, feeding it through the tiny chimney and lighting it to watch smoke drift from the roof. Those memories have remained vivid, becoming woven into the painting as symbols of home, inheritance and the stories passed between generations.
The wren itself has long held a special place in Welsh folklore and folk song. Small but resilient, it becomes here a messenger between childhood and memory, carrying echoes of place, family and belonging.


Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales Ffin y Parc Gallery Eisteddfod Genedlaethol Cymru
Ann Evans Ceinwen Briddon Katie-Ann Briddon-Jones

⭐️ Cyhoeddiad ⭐️ Announcement ⭐️(Please see below for english translation) Rwy’n hynod gyffrous o gael fy enwi’n un o ar...
01/06/2026

⭐️ Cyhoeddiad ⭐️ Announcement ⭐️
(Please see below for english translation)

Rwy’n hynod gyffrous o gael fy enwi’n un o artistiaid swyddogol Eisteddfod Genedlaethol Cymru – Eisteddfod y Garreg Las eleni, gyda chyfres o sgyrsiau a thrafodaethau wedi’u trefnu fel rhan o’r ŵyl.

📍AUGUST AWST 01 - SEPTEMBER | MEDI 13
Oriel Canfas Gallery, Aberteifi
Arddangosfa- Exhibition 'AUR / GOLD'.

📍Dydd Iau (Thursday) 6 Awst (August), 4yp/ pm– Lle Celf
‘Clywed Llun’
Byddaf yn rhoi sgwrs am fy ngwaith yn y Lle Celf, gyda Mari-Elin o Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn arwain y sesiwn, a cherddoriaeth gan Mari Mathias.

📍 Dydd Gwener (Friday) 7 Awst (August) – Pabell Lên (Literary tent) 10.30yb / am
‘Tua’r Gorllewin – celfyddyd yn ymateb i newid cymdeithas a cholli iaith yn y gorllewin’
Byddaf yn cymryd rhan mewn trafodaeth yn y Pabell Lên. Bydd y sesiwn yn cael ei chadeirio gan Beti George ac yn cynnwys Cleif Harpwood, Euros Lewis a minnau.

Mae’n fraint fawr cael bod yn rhan o Eisteddfod eleni ac i gael y cyfle i drafod celf, diwylliant, iaith a hunaniaeth fel rhan o ddathliad cenedlaethol mor bwysig.Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weld hen ffrindiau & teulu eto a ddathlu gyda’n gilydd ❤️❤️
.............................................................

I’m so excited to be named one of the official artists/acts of the National Eisteddfod of Wales – Eisteddfod y Garreg Las this year, to be taking part in a series of talks and discussions as part of the festival programme.

📍AUGUST AWST 01 - SEPTEMBER | MEDI 13
Oriel Canfas Gallery, Aberteifi
Arddangosfa- Exhibition 'AUR / GOLD'.

📍Thursday 6 August, 4pm – Lle Celf
‘Clywed Llun’
I will be taking part in a talk at Lle Celf, presented by Mari-Elin from the National Library of Wales, with accompanying music from Mari Mathias.

📍Friday 7 August – Pabell Lên (Literary tent) 10.30 am
‘Towards the West – Art Reacting to Changing Society and the Loss of Language in the West’
The session will be hosted by Beti George and features myself, Cleif Harpwood and Euros Lewis.

It is a real privilege to be involved in this year’s Eisteddfod and to have the opportunity to discuss art, culture, language and identity as part of such an important national celebration.

Excited to see old friends and family and celebrate together on my homeground ❤️
Eisteddfod Genedlaethol Cymru Llyfrgell Genedlaethol Cymru | The National Library of Wales Mari Mathias Cyngor Celfyddydau Cymru | Arts Council of Wales

Diolch o'r galon Cadi Dafydd Cylchgrawn Golwg am yr erthygl hyfryd yma. Arddangosfa yn Oriel Ffin-y-Parc ymlaen tan y 6e...
31/05/2026

Diolch o'r galon Cadi Dafydd Cylchgrawn Golwg am yr erthygl hyfryd yma. Arddangosfa yn Oriel Ffin-y-Parc ymlaen tan y 6ed Mehefin. ❤️

Thankyou to Cadi Dafydd at Golwg magazine for this lovely article. The Exhibition at Ffin y Parc Gallery is on until the 6th June 🌀🌀🌀

Address

Llandudno

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Meinir Mathias Artist posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Establishment

Send a message to Meinir Mathias Artist:

Shortcuts

Share