Ar ôl Tri

Ar ôl Tri O blith y corau meibion sy’n ymarfer yng Nghapel Mair Aberteifi ar nos Sul, mae Ar ôl Tri yn un o

Hoffai’r côr eich gwahodd yn gynnes i Gyngerdd Mawreddog Santes Dwynwen ar 24 Ionawr. Dewch yn llu!
06/01/2026

Hoffai’r côr eich gwahodd yn gynnes i Gyngerdd Mawreddog Santes Dwynwen ar 24 Ionawr. Dewch yn llu!

Hoffai’r côr rannu ei gyfansoddiad ‘da chi.
28/11/2025

Hoffai’r côr rannu ei gyfansoddiad ‘da chi.

30/03/2025

🌟CYNLUN ENGLYNION AR ÔL TRI🌟

Cefnogwch Gôr Meibion Ar Ôl Tri i deithio i’r Eidal! 🇮🇹

Mae côr meibion Ar Ôl Tri yn trefnu taith i’r Eidal yr hydref hwn i gymryd rhan mewn Gŵyl Gorawl i goffáu Carwyn James. Bydd y côr yn perfformio mewn cyngherddau yn Bologna a Rovigo, ac mae angen codi a***n at y daith!

Sut allwch chi helpu?

Mae nifer o feirdd profiadol yn y côr—Emyr Davies, Steff Phillips, Rhys Dafis, Meirion Jones a Ceri Wyn Jones—yn cynnig englynion personol er mwyn codi a***n.

Oes gennych chi achlysur arbennig?

Gallwn greu englyn ar gyfer:
✔️ Ymddeoliad
✔️ Geni plentyn
✔️ Llongyfarch rhywun
✔️ Cydymdeimlad neu goffáu
✔️ Hysbysebu busnes
✔️ Unrhyw achlysur arall!

Pris: £100 yr un – ac mae’r holl elw yn mynd tuag at y daith.

Sut i archebu?

✉️ Ebostiwch: [email protected]
📌 Talu drwy drosglwyddiad banc:
➡️ Ar ôl Tri (Cyfrif Busnes)
➡️ 52-21-11 | 21599920
➡️ Cofiwch anfon ebost i gadarnhau taliad!

Diolch o galon am eich cefnogaeth – eleni rydym yn dathlu 40 mlynedd ers sefydlu’r côr!

4️⃣0️⃣

11/12/2023

Mewn tro pedol bydd pawb ym mhob cystadleuaeth dorfol yn cael perfformio "heb ragbrofion torfol mewn unrhyw adran".

Ni’n methu aros i ganu yng Nghastell Aberteifi ar y 15fed o Hydref gyda Ceri Davies - Tenor, Lowri Evans, Only Boys Alou...
04/10/2022

Ni’n methu aros i ganu yng Nghastell Aberteifi ar y 15fed o Hydref gyda Ceri Davies - Tenor, Lowri Evans, Only Boys Aloud Aberteifi ac wrth gwrs Ceri Wyn Jones. Welwn ni chi yno!

We can't wait to sing at Cardigan Castle on the 15th of October with Ceri Davies Tenor, Lowi Evans, Only Boys Aloud Cardigan and Ceri Wyn Jones. See you there!

ENGLISH BELOW

Dwi methu aros i ganu mewn noson efo fi fy hun, Ar ôl Tri, Lowri Evans, Only Boys Aloud a’r Prifardd Ceri Wyn Jones ar nos Sadwrn y 15fed o Hydref ym Mhafiliwn Castell Aberteifi. Cysylltwch nawr i brynu eich tocynnau ar www.cardigancastle.com neu sganiwch y cod bar isod. Welai chi na!!

I cant wait to sing in an evening with myself, Ar ôl Tri, Lowri Evans, Only Boys Aloud and Ceri Wyn Jones on Saturday the 15th of October at Cardigan Castle Pavilion. Get in touch now to buy your tickets on www.cardigancastle.com or scan the barcode below. See you there!!

English belowWel am benwythnos emosiynol i Ar ôl Tri ar ôl ennill yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn ein sir ene...
09/08/2022

English below

Wel am benwythnos emosiynol i Ar ôl Tri ar ôl ennill yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron yn ein sir enedigol!! Ond roedd y fuddugoliaeth hon yn arbennig iawn i bawb yn Ar ôl Tri gan ein bod yn perfformio er cof am ein ffrind annwyl a’n cyn-arweinydd Wyn Lewis neu ‘Wyn y Vet’, hebddo ni fyddai côr heddiw na’r gymuned glos o gyfeillgarwch mae gan y côr! Dyna pam rydym yn cysegru ein llwyddiant i Wyn! Talwyd teyrnged hefyd i’r bardd Dick Jones trwy ganu darn comisiwn er cof amdano ‘Deryn Du Yr Hendre’ a enillodd Wobr y Gân Gymraeg Orau’r gystadleuaeth, a gyfansoddwyd gan Gareth Glyn, geiriau gan y Prifardd ac aelod o’r côr Ceri Wyn Jones ac gomisiynwyd gan aelod arall o’r côr sef Greham Evans. Hoffem hefyd ddiolch i'n harweinydd Emyr Davies sydd wedi gwneud gwaith ardderchog o gadw Ar ôl Tri i fynd yn gryf a sicrhau bod Ar ôl Tri yn parhau yn gryf ymhell i'r dyfodol, hoffem hefyd diolch i’n cyfeilyddes hynod dalentog sef Meinir Jones Parry a'i sgiliau piano gwych sydd wedi rhoi'r holl fantais i Ar ôl Tri dros y blynyddoedd! Ac yn olaf ond nid lleiaf hoffem ni fel côr ddiolch i chi am eich holl gefnogaeth a charedigrwydd dros y blynyddoedd ac edrychwn ymlaen at flynyddoedd cyffrous o berfformio! Diolch yn fawr i chi gyd!!

Well what an emotional weekend for Ar ôl Tri after winning the National Eisteddfod in Tregaron in our home county!! But this win was very special to everyone in Ar ôl Tri as we were performing in memory of our dear friend and past conductor Wyn Lewis or ‘Wyn y Vet’, without whom there would not be a choir today nor the close community of friendship that the choir has! That is why we dedicate our success to Wyn! We also payed tribute to poet Dick Jones by singing a commissioned piece in his memory ‘Deryn Du Yr Hendre’ which won the Best Welsh Song Prize of the competition, composed by Gareth Glyn, words by poet and choir member Ceri Wyn Jones and commissioned by choir member Greham Evans. We would also like to thank our conductor Emyr Davies who has done an excellent job of keeping Ar ôl Tri going strong and ensuring that Ar ôl Tri continues to thrive well in to the future, and we would also like to that out excellent and extremely talented accompanist Meinir Jones Parry who’s excellent piano skills has given all the advantage to Ar ôl Tri over the years! And last but not least we as a choir would like to thank you for all your support and kindness over the years and look forward to many exciting years of performing! Diolch yn fawr i chi gyd!!

CARDIGAN’S Ar Ôl Tri took first prize in the Male Voice Choir (with fewer than 20 members) category at the National Eisteddfod in Tregaron –…

Y côr yn canu Bryn Calfaria ar rhaglen Dechrau Canu Dechrau Camol ar S4C. Mwynhewch!!The choir singing Bryn Calfaria omD...
24/05/2022

Y côr yn canu Bryn Calfaria ar rhaglen Dechrau Canu Dechrau Camol ar S4C. Mwynhewch!!

The choir singing Bryn Calfaria omDechrau Canu Dechrau Canmol. Enjoy!!

Perfformiad Ar ôl Tri ar gyfer Dechrau Canu Dechrau Canmol.

Address

Cardigan

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Ar ôl Tri posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share

Category