Neuadd Dewi Sant

Neuadd Dewi Sant Yng nghalon Caerdydd, prifddinas Cymru, Neuadd Dewi Sant ydi Neuadd Gyngerdd Genedlaethol a Chanolfan Gynadledda Genedlaethol Cymru.
07391791934 | 07966264164

Yn anffodus, bydd ein Swyddfa Docynnau yn cau mewn pythefnos, ddydd Gwener 2 Chwefror. Os oes gennych ad-daliad sy’n ddy...
19/01/2024

Yn anffodus, bydd ein Swyddfa Docynnau yn cau mewn pythefnos, ddydd Gwener 2 Chwefror.

Os oes gennych ad-daliad sy’n ddyledus neu ymholiad, ffoniwch ni cyn gynted â phosibl ar 029 2087 8444.

Bydd y llwyth olaf o docynnau ar gyfer sioeau sydd wedi symud i leoliadau eraill yn cael eu postio ddydd Llun 22 Ionawr.

Diolch yn fawr am eich cefnogaeth, eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Neuadd Dewi Sant.

Mae'n ddrwg gennym gadarnhau y bydd Neuadd Dewi Sant bellach ar gau o fis Medi 2023 am o leiaf y 18 mis nesaf oherwydd p...
22/11/2023

Mae'n ddrwg gennym gadarnhau y bydd Neuadd Dewi Sant bellach ar gau o fis Medi 2023 am o leiaf y 18 mis nesaf oherwydd presenoldeb RAAC.

Rydym yn gweithio'n galed i symud sioeau a throsglwyddo tocynnau lle bo hynny'n bosibl. Gofynnwn yn garedig am eich amynedd wrth i ni weithio drwy'r cyfnod heriol hwn.

Os ydych eisoes wedi cael gwybod bod sioe wedi’i chanslo, mae ad-daliadau nawr wedi cael eu cymeradwyo gan y banc a dylent fod gyda chi o fewn 5 diwrnod gwaith.

Os byddwch yn derbyn hysbysiad bod unrhyw sioeau pellach wedi’u canslo, caniatewch 20 diwrnod gwaith i'ch ad-daliad ymddangos wrth Gyngor Caerdydd.

Cadwch olwg ar eich mewnflwch a’ch ffolder sothach i gael diweddariadau pellach wrth i ni weithio trwy'r rhestr sioeau ar gyfer y misoedd nesaf.

Datganiad llawn gan Gyngor Caerdydd yma: https://bit.ly/47JU3NR

Neuadd Dewi Sant.

Mae'r datganiad hwn yn rhoi diweddariad ar gau Neuadd Dewi Sant dros dro tra bod gwiriadau ychwanegol ar y paneli Concri...
13/10/2023

Mae'r datganiad hwn yn rhoi diweddariad ar gau Neuadd Dewi Sant dros dro tra bod gwiriadau ychwanegol ar y paneli Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth (CAAC) yn yr adeilad yn cael eu cynnal, a thra bod y camau nesaf angenrheidiol yn cael eu cymryd. Mae'r diweddariad hwn yn dilyn datganiadau blaenorol a gyhoeddwyd ar 2 Hydref a 7 Medi.

Mae’r arbenigwyr CAAC a ddewiswyd gan Gyngor Caerdydd i gynnal y gwiriadau ychwanegol yn dod at ddiwedd eu harolygiadau, ac mae disgwyl i'w canfyddiadau gael eu hadrodd yn ôl i'r awdurdod lleol tua diwedd yr wythnos nesaf (wythnos yn dechrau 16 Hydref).

Mae arwyddion cynnar wedi ei gwneud hi'n glir y bydd angen gwaith os yw'r Neuadd am ailagor https://bit.ly/46EUOr8

Yn anffodus, mae’r cyfnod y mae’n rhaid cau Neuadd Dewi Sant dros dro wedi cael ei ymestyn i ganiatáu mwy o amser i gwbl...
03/10/2023

Yn anffodus, mae’r cyfnod y mae’n rhaid cau Neuadd Dewi Sant dros dro wedi cael ei ymestyn i ganiatáu mwy o amser i gwblhau'r gwiriadau ychwanegol ar y paneli CAAD (Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth) yn yr adeilad.

Rydym yn disgwyl i'r weithdrefn hon gael ei chwblhau yn ystod y tair wythnos nesaf, sy'n golygu y bydd perfformiadau pellach yn cael eu gohirio. Arhoswch am ddiweddariad cyn gynted â phosibl ar gyfer eich sioe benodol ynghylch a fydd yn cael ei haildrefnu, ei hadleoli neu ei chanslo.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn natganiad swyddogol Cyngor Caerdydd yma: https://bit.ly/3EYUXtA

Diolch am eich amynedd a'ch cefnogaeth barhaus, ac rydym yn ymddiheuro am yr anghyfleustra a'r siom y gallai hyn ei achosi.

Neuadd Dewi Sant.

**AR WERTH NAWR** Yn asio hen glasuron a chlasuron modern, mae Postmodern Jukebox Scott Bradlee yn dathlu ei ben-blwydd ...
02/10/2023

**AR WERTH NAWR**

Yn asio hen glasuron a chlasuron modern, mae Postmodern Jukebox Scott Bradlee yn dathlu ei ben-blwydd yn 10 oed mewn steil ar ddydd Iau 16 Mai 2024!

🎟️🎟️🎟️ 029 2087 8444 / https://bit.ly/3Px4c9i

**NEWID LLEOLIAD A RHAGLEN**Bydd cyngerdd agoriadol Tymor Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC National Orchestra of Wal...
02/10/2023

**NEWID LLEOLIAD A RHAGLEN**

Bydd cyngerdd agoriadol Tymor Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC National Orchestra of Wales ddydd Iau 5 Hydref 2023 nawr yn cael ei gynnal yn Neuadd Hoddinott y BBC, Bae Caerdydd, ar yr un dyddiad.

Fel yr hysbysebwyd yn flaenorol, yn ymuno â'r gerddorfa fydd y Prif Arweinydd - Ryan Bancroft - a'r mezzo-soprano o'r Iseldiroedd, Christianne Stotijn ar gyfer rhaglen newydd o gerddoriaeth:

Agorawd, Scherzo a Diweddglo Schumann
Mahler Kindertotenlieder
Symffoni Rhif 3 'Rhenish' Schumann

Gall y rheiny a archebodd yn flaenorol ar gyfer Mahler 3 nawr wneud cais am ad-daliadau rhannol a throsglwyddo eu tocynnau i'r perfformiad diwygiedig hwn, neu ad-daliadau llawn os nad ydynt am fod yn bresennol mwyach, trwy ein Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444.

Rhagor o wybodaeth: https://bit.ly/45fbRi8

**WEDI’I AILDREFNU**Mae Noson gydag Adrian Edmondson bellach wedi'i haildrefnu o ddydd Iau 28 Medi i ddydd Sadwrn 28 Hyd...
02/10/2023

**WEDI’I AILDREFNU**

Mae Noson gydag Adrian Edmondson bellach wedi'i haildrefnu o ddydd Iau 28 Medi i ddydd Sadwrn 28 Hydref 2023, 7.30pm.

Mae’r tocynnau’n ddilys ar gyfer y dyddiad newydd.

🎟️🎟️🎟️ 029 2087 8444 / https://bit.ly/3ZEglOk

**WEDI’I AILDREFNU** Bydd Charlotte Saluste-Bridoux a Joseph Havlat a drefnwyd ar gyfer dydd Mawrth 26 Medi 2023 nawr yn...
29/09/2023

**WEDI’I AILDREFNU**

Bydd Charlotte Saluste-Bridoux a Joseph Havlat a drefnwyd ar gyfer dydd Mawrth 26 Medi 2023 nawr yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 4 Mehefin 2024.

Mae'r tocynnau presennol yn parhau’n ddilys.

🎟️🎟️🎟️ 029 2087 8444 / https://bit.ly/3Zy0iBD

**WEDI’I AILDREFNU** Bydd y digwyddiad Capital City Jazz Orchestra gyda’r unawdydd gwadd arbennig Alan Barns, a drefnwyd...
20/09/2023

**WEDI’I AILDREFNU**

Bydd y digwyddiad Capital City Jazz Orchestra gyda’r unawdydd gwadd arbennig Alan Barns, a drefnwyd yn flaenorol ar gyfer Dydd Mawrth 12 Medi 2023, nawr yn cael ei gynnal Dydd Mawrth 21 Mai 2024, 8.00pm

Mae'r tocynnau presennol yn parhau’n ddilys.
029 2087 8444 / bit.ly/3ZrhecN

**WEDI’I GANSLO**Yn anffodus, mae  Cerddorfa Symffoni a Chorws CBCDC: Belshazzar’s Feast Ddydd Mercher 25 Hydref 2023 we...
20/09/2023

**WEDI’I GANSLO**

Yn anffodus, mae Cerddorfa Symffoni a Chorws CBCDC: Belshazzar’s Feast Ddydd Mercher 25 Hydref 2023 wedi’i ganslo am fod Neuadd Dewi Sant wedi’i chau dros dro.

Mae CBCDC wedi trefnu dwy gyngerdd newydd ar 25 a 26 Hydref yn Neuadd Dora Stoutzker lle gallwch dal glywed y Gerddorfa Symffoni a Chorws a Chôr Siambr y Coleg yn perfformio. Ewch i'w gwefan am fanylion.

Mae pawb a archebodd wedi cael e-bost (gwiriwch eich ffolderi sothach / sbam). Am ad-daliadau, ffoniwch ein Swyddfa Docynnau ar 029 2087 8444 (9.30am - 5pm).

Ymddiheurwn am yr anghyfleustra a’r siom y gallai hyn ei achosi.

**WEDI’I AILDREFNU** Bydd sioe The Hollies a drefnwyd ar gyfer Dydd Sadwrn 7 Hydref 2023 bellach yn cael ei chynnal Ddyd...
20/09/2023

**WEDI’I AILDREFNU**
Bydd sioe The Hollies a drefnwyd ar gyfer Dydd Sadwrn 7 Hydref 2023 bellach yn cael ei chynnal Ddydd Iau 2 Tachwedd 2023.

Mae'r tocynnau presennol yn parhau’n ddilys.
029 2087 8444 bit.ly/3PoX52K

Yn anffodus, bydd Neuadd Dewi Sant yn cau ar unwaith am o leiaf y pedair wythnos nesaf, yn dechrau heddiw (Dydd Iau 7 Me...
07/09/2023

Yn anffodus, bydd Neuadd Dewi Sant yn cau ar unwaith am o leiaf y pedair wythnos nesaf, yn dechrau heddiw (Dydd Iau 7 Medi), i gynnal archwiliadau ychwanegol ar baneli Concrit Awyredig Awtoclafedig Cyfnerthedig (RAAC) yn yr adeilad.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn natganiad swyddogol Cyngor Caerdydd yma: https://bit.ly/3PtlKUX

Bydd yr holl sioeau yn y ffenestr pedair wythnos hon yn cael eu gohirio. Byddwn yn cysylltu â chi cyn gynted ag y gallwn i gadarnhau dyddiadau newydd.

Ymddiheurwn am yr anghyfleustra a’r siom y gallai hyn ei achosi.

Neuadd Dewi Sant.

Address

Yr Aes
Cardiff
CF101

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Neuadd Dewi Sant posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Establishment

Send a message to Neuadd Dewi Sant:

Share