15/07/2026
🎶 CARREG LAFAR | Cyngerdd i Meinir / A Concert for Meinir 🎶
📍 Clwb y Bont, Pontypridd, CF37 4SL
📅 Friday 17 July 2026
🎫 www.ticketsource.com/clwb-y-bont
Yn rhan allweddol o sîn gerddoriaeth draddodiadol Cymru ers dros 30 mlynedd, mae Carreg Lafar yn cyfuno caneuon a thonau traddodiadol a gwreiddiol i greu sain gyfoes sydd wedi’i gwreiddio’n ddwfn yn iaith a thraddodiadau Cymru. Wedi perfformio mewn gwyliau a lleoliadau enwog ledled y DU, Ewrop a Gogledd America, mae'r band yn adnabyddus am eu lleisiau grymus a’u trefniannau cyfoethog ar ffidil, ffliwt, pibgorn, pibau a gitâr.
A leading force in Welsh traditional music for over 30 years, Carreg Lafar blend traditional and original music to create a contemporary sound firmly rooted in the language and traditions of Wales. Having performed across the UK, Europe and North America, the band is celebrated for its powerful vocals and rich arrangements featuring fiddle, flute, pibgorn, bagpipes and guitar.
💜 Cyngerdd i Meinir | A Concert for Meinir
I gefnogi Meinir Siencyn, bydd Carreg Lafar yn rhoi eu ffi am y cyngerdd hwn i ymgyrch GoFundMe Meinir ar gyfer triniaeth canser frys yn yr Almaen. Dewch i fwynhau noson arbennig o gerddoriaeth fyw wrth gefnogi achos hynod deilwng.
In support of Meinir Siencyn, Carreg Lafar will be donating their fee from this concert to Meinir's GoFundMe campaign for urgent cancer treatment in Germany. Join us for a wonderful evening of live Welsh music while supporting a very worthy cause.