Gwasanaeth Llyfrgell Caerdydd

Gwasanaeth Llyfrgell Caerdydd Croeso i Lyfrgelloedd Caerdydd!

02/09/2026

Digwyddiad Awduron gyda Benjamin Stimpson yn Llyfrgell Cathays!
Dydd Sadwrn 26 Medi 2026, 1pm.

Dewch i ddathlu lansio Of Toads and Hares: The Witches and Wisewomen of England, gyda sgwrs am wrachod a phobl gyfrwys gan Benjamin. Sesiwn llofnodi llyfrau i ddilyn.

Gallwch gymryd rhan am ddim.
Mae modd cadw lle yma: https://tinyurl.com/n7ebasc6
-----------------------------------------------------------------------------------

Author talk with Benjamin Stimpson at Cathays Library!
Saturday September 26th 2026, 1pm.

Come and celebrate the launch of 'Of Toads and Hares: The Witches and Wisewomen of England', with a talk about witches and cunning folk by Benjamin! Book signing to follow.

Free to participate.
Booking available at: https://tinyurl.com/n7ebasc6

Peidiwch anghofio y bydd holl Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd ar gau dros ŵyl y banc ddydd Llun, 31 Awst.
26/08/2026

Peidiwch anghofio y bydd holl Hybiau a Llyfrgelloedd Caerdydd ar gau dros ŵyl y banc ddydd Llun, 31 Awst.

A yw eich plentyn wedi cwblhau Sialens Ddarllen yr Haf? Gorffennwch y chwe llyfr a chael medal a thystysgrif – mae digon...
25/08/2026

A yw eich plentyn wedi cwblhau Sialens Ddarllen yr Haf?

Gorffennwch y chwe llyfr a chael medal a thystysgrif – mae digon o amser ar ôl! 📚🏅

Y dyddiad olaf i gwblhau'r her yw dydd Sadwrn 12 Medi.



**Digwyddiad newydd!** Hoffech chi glywed am ramant cwiar, hanesion cudd a sut mae wy yn gallu newid eich bywyd? Hoffen ...
24/08/2026

**Digwyddiad newydd!** Hoffech chi glywed am ramant cwiar, hanesion cudd a sut mae wy yn gallu newid eich bywyd? Hoffen ni!

Ymunwch â'r awduron Emily Garside, Mikey Bell a Jack Strange wrth iddynt archwilio eu profiadau o ysgrifennu a chyhoeddi fel awduron Cwiar yng Nghymru.

Digwyddiad am ddim – rhannwch a dywedwch wrth eich ffrindiau! Archebwch eich tocyn yma: http://tinyurl.com/yrcxyc5e

Hyb y Llyfrgell Ganolog Caerdydd
Dydd Iau 24/09, 5.45.

Cardiff Central Library Hub
Calon Books
Paned o Gê

Mae Academi Benwan y Cyfansoddwyr ar agor! Ymunwch â'r awdur a'r canwr opera Max Llewelyn Evans ar 28 Awst yn Hyb y Llyf...
20/08/2026

Mae Academi Benwan y Cyfansoddwyr ar agor! Ymunwch â'r awdur a'r canwr opera Max Llewelyn Evans ar 28 Awst yn Hyb y Llyfrgell Ganolog i deithio yn ôl mewn amser i fydoedd Bilious Beethoven a Riotous Rossini. Perffaith i blant 5-11 oed sy'n caru cerddoriaeth ac antur, a gwych i'r teulu cyfan!

Gwybodaeth bwysig am archebu: Mae lleoedd ar gyfer digwyddiadau yn gyfyngedig, ac mae’n rhaid eu harchebu ymlaen llaw. Rhaid gwneud pob archeb drwy e-bost, i [email protected]. Wrth archebu lle, darparwch enw’r plentyn, ei oedran, a rhif ei gerdyn llyfrgell.
Bydd archebu ar gyfer pob digwyddiad yn agor am 9yb, ar y dydd Gwener cyn y digwyddiad (yfory!). Er mwyn cymryd rhan mewn unrhyw ddigwyddiadau y gellir eu harchebu, rhaid i blant fod wedi cofrestru ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf.

Mae cyfres Academi Benwan y Cyfansoddwyr wedi'i darlunio gan Karl Davies a'i chyhoeddi gan Graffeg.

Rhan o’r Flwyddyn Ddarllen Genedlaethol. Diolch i Cyngor Llyfrau Cymru / Books Council of Wales.

Cardiff Central Library Hub

Cafodd ein harddangosfa Sikhiaid yng Nghymru ddigwyddiad lansio gwych fis diwethaf gyda Dhol (drymiau), losin traddodiad...
19/08/2026

Cafodd ein harddangosfa Sikhiaid yng Nghymru ddigwyddiad lansio gwych fis diwethaf gyda Dhol (drymiau), losin traddodiadol a mwy. Diolch i bartneriaid ein digwyddiad am eu holl waith caled a chyfraniadau!

Mae'r arddangosfa yn parhau yn Hyb y Llyfrgell Ganolog tan 17 Medi. Galwch heibio ar unrhyw adeg i archwilio treftadaeth, diwylliant a chreu cymuned.

Cardiff Central Library Hub

🏅 Pan fyddwch yn gorffen Sialens Ddarllen yr Haf, byddwch yn cael medal a thystysgrif!📚 Os ydych chi eisoes wedi dechrau...
18/08/2026

🏅 Pan fyddwch yn gorffen Sialens Ddarllen yr Haf, byddwch yn cael medal a thystysgrif!

📚 Os ydych chi eisoes wedi dechrau, ewch i'r llyfrgell a dywedwch wrthym am y llyfrau rydych chi wedi bod yn eu darllen – os ydych chi wedi gorffen y chwech fe gewch chi eich gwobr derfynol. Neu ymunwch heddiw a byddwn yn eich helpu i ddechrau!

📱 Cofiwch fod llyfrau sain, comics a mwy i gyd yn cyfrif tuag at eich cyfanswm. Gobeithio y gwelwn ni chi cyn bo hir. 🙂

🎟 A pheidiwch ag anghofio.... byddwn yn rhoi 4 x tocyn sinema ODEON gwerth £25 i blant lwcus sy’n cwblhau Sialens Ddarllen yr Haf eleni. Bydd enillwyr yn cael eu dewis ar hap.

Mae'r Sialens yn ffordd wych o gadw plant yn darllen dros y gwyliau, ac mae'n cynnig ymdeimlad gwirioneddol o gyflawniad (a gwobrau bach!) i’r rhai sy’n gorffen. Yn ddelfrydol i'w gwblhau cyn i'r ysgol ddechrau, gyda dyddiad cau terfynol o 12 Medi.



18/08/2026

📣 Adnodd Newydd! Dysgwch 140+ o ieithoedd gyda Transparent Language Online.

📲💻 Gallwch ymarfer gan ddefnyddio sain a thestun. Lawrlwythwch yr ap heddiw, neu cofrestrwch ar-lein gyda’ch rhif cerdyn llyfrgell yma: https://library.transparent.com/ukcardiff/game/ng/ #/login

Ewch draw i Riwbeina ddydd Sadwrn i gael golwg ar arddangosfa ffotograffiaeth arbennig – am un diwrnod yn unig! Mwynhewc...
17/08/2026

Ewch draw i Riwbeina ddydd Sadwrn i gael golwg ar arddangosfa ffotograffiaeth arbennig – am un diwrnod yn unig! Mwynhewch themâu bywyd gwyllt a ffurf, gyda’r holl ffotograffau’n dod o glwb camera Llyfrgell Rhiwbeina.

📆 22/08/26, 10-5
📍 Hyb Rhiwbeina - Rhiwbina Hub

Cofiwch nad ydym yn cadw sbectolau eclips yn ein hybiau a’n llyfrgelloedd (sori!). 🌞🌚Cadwch yn ddiogel heddiw yn ystod y...
12/08/2026

Cofiwch nad ydym yn cadw sbectolau eclips yn ein hybiau a’n llyfrgelloedd (sori!). 🌞🌚

Cadwch yn ddiogel heddiw yn ystod yr eclips a gofalwch am eich golwg.

Cyngor ac awgrymiadau (Saesneg):

On Wednesday 12 August 2026, a partial solar eclipse will be visible across the UK. It's a rare and exciting event that many people will be keen to watch. But looking directly at the Sun without the right protection can cause permanent damage to your

Address

Cardiff
CF101FL

Opening Hours

Monday 9am - 6pm
Tuesday 9am - 6pm
Wednesday 9am - 6pm
Thursday 9am - 7pm
Friday 9am - 6pm
Saturday 9am - 5:30pm

Telephone

+442920871071

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Gwasanaeth Llyfrgell Caerdydd posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share