Sain Recordiau

Sain Recordiau Cerddoriaeth Gymreig o Gymru gan gwmni recordio Sain. Welsh Music from Wales from Sain Records. https://linktr.ee/sainrecordiau

Prif label recordio - Sain

Is-labeli - Rasal, Gwymon, Copa a Tryfan

Gŵyl Sain 2026 ●●Yn falch iawn o gyhoeddi bydd Gŵyl Sain yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn 31 Hydref 2026. Cadwch olwg am fwy...
08/09/2026

Gŵyl Sain 2026 ●●

Yn falch iawn o gyhoeddi bydd Gŵyl Sain yn dychwelyd ar ddydd Sadwrn 31 Hydref 2026. Cadwch olwg am fwy o gyhoeddiadau dros yr wythnosau nesaf.

Cadwch y dyddiad / Save the date.

Happy to announce that the second instalment of Gŵyl Sain will take place on Saturday 31 October 2026. Sign up to the mailing list to be the first to know about key annoucements. Link in our bio.

Dyluniad Celt

Colled fawr i Gymru yw colli Roy Saer - arbenigwr heb ei ail ar ein canu gwerin. Braf oedd medru cydweithio flynyddoedd ...
05/09/2026

Colled fawr i Gymru yw colli Roy Saer - arbenigwr heb ei ail ar ein canu gwerin. Braf oedd medru cydweithio flynyddoedd yn ol i ryddhau rhai o'r recordiadau gwerthfawr a wnaeth yn ystod ei gyfnod yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan. Diolch am ei gyfraniad gwerthfawr i'n traddodiad a meddyliwn am ei deulu a'i gyfeillion oll.

Diwrnod Recordiau Cymraeg ●I ddathlu Diwrnod Recordiau Cymraeg cyntaf BBC Radio Cymru wythnos nesaf, bydd Sain yn cynnig...
28/08/2026

Diwrnod Recordiau Cymraeg ●

I ddathlu Diwrnod Recordiau Cymraeg cyntaf BBC Radio Cymru wythnos nesaf, bydd Sain yn cynnig 10% oddi ar bob feinyl ar draws y wefan ddydd Llun 31 Awst, gan gynnwys ein cynnyrch feinyl diweddaraf:

— Tyrchu Sain Don Leisure
— Stafell Sbâr Sain KLUST. a Tŷ Gwerin
— Gobaith Mawr Y Ganrif, Geraint Jarman
— Mae’r Olwyn yn Troi, Heather Jones
— Yma o Hyd, Dafydd Iwan
— Hei Mistar Urdd, Aleighcia Scott Dom James Lloyd Lewis

Proud to be part of BBC Radio Cymru's first Welsh Records Day next week, Sain will be offering 10% off all vinyl across the website on Monday, 31 August, including our latest releases above.

Pob lwc i bawb sy’n rhan o Calon yr wythnos hon, sioe gerdd gyfoes wreiddiol gan Cwmni Theatr yr Urdd sy’n dathlu caneuo...
27/08/2026

Pob lwc i bawb sy’n rhan o Calon yr wythnos hon, sioe gerdd gyfoes wreiddiol gan Cwmni Theatr yr Urdd sy’n dathlu caneuon eiconig yr anhygoel Caryl Parry Jones ☆

Ewch i wrando ar ein rhestr chwarae arbennig, Clasuron Caryl, sy’n cynnwys rhai o’r perlau gafodd eu rhyddhau gan Sain ers dechrau'r 1980au. Linc yn ein bio.

Y sioe yn cychwyn heno yn Theatr Donald Gordon Wales Millennium Centre / Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd.

Diolch am y croeso Llantwd ☆Miloedd yn gwylio, degau o artistiaid yn perfformio, un Eisteddfod arbennig. Llongyfarchiada...
10/08/2026

Diolch am y croeso Llantwd ☆

Miloedd yn gwylio, degau o artistiaid yn perfformio, un Eisteddfod arbennig. Llongyfarchiadau i dîm yr Eisteddfod am greu wythnos fythgofiadwy yn Y Garreg Las.

Sain t-shirts restock on its way. Sign up to the mailing list to be the first to know. Linc yn ein bio 🔗

Hir oes i Hergest ♡Bydd un o fandiau Cymraeg mwyaf poblogaidd y 1970au, Hergest, yn dychwelyd i’r Eisteddfod wythnos nes...
30/07/2026

Hir oes i Hergest ♡

Bydd un o fandiau Cymraeg mwyaf poblogaidd y 1970au, Hergest, yn dychwelyd i’r Eisteddfod wythnos nesaf.

‘Harbwr Aberteifi’, ‘Ugain Mlynedd yn Ôl’, ‘Hirddydd Haf’ - rhai o’r hen ffefrynnau fydd yn siŵr o blesio cynulleidfa Tŷ Gwerin ar nos Fawrth 4ydd Awst am 18:15.

Ydi, ma’ nhw'n ôl ☆Wedi 10 mlynedd o seibiant, bydd y pedwarawd poblogaidd, Y Bandana, yn dod yn ôl at ei gilydd wythnos...
29/07/2026

Ydi, ma’ nhw'n ôl ☆

Wedi 10 mlynedd o seibiant, bydd y pedwarawd poblogaidd, Y Bandana, yn dod yn ôl at ei gilydd wythnos nesaf ar gyfer eu perfformiad cyntaf ar Faes yr Eisteddfod ers Y Fenni yn 2016.

Llwyfan y Maes nos Wener 7 Awst, 21:00.

Crysau-T Sain yn Steddfod 👀Bydd nifer cyfyngedig o grysau-T Sain ar gael o stondinau Awen Teifi, Adra a Caffi Maes B wyt...
28/07/2026

Crysau-T Sain yn Steddfod 👀

Bydd nifer cyfyngedig o grysau-T Sain ar gael o stondinau Awen Teifi, Adra a Caffi Maes B wythnos nesaf.

Sain & Geraint Jarman T-shirts available at the Eisteddfod next week (limited quantities).

📸 ℜ𝔥𝔶𝔰 𝔊𝔯𝔞𝔦𝔩

Bydd Geraint Jarman: Cerddi a Chaneuon yn lansio ar faes yr Eisteddfod ym Mhabell y Cymdeithasau am 13:00 ar 1 Awst. Yn ...
25/07/2026

Bydd Geraint Jarman: Cerddi a Chaneuon yn lansio ar faes yr Eisteddfod ym Mhabell y Cymdeithasau am 13:00 ar 1 Awst. Yn holi fydd Lisa Gwilym, ac ar y panel bydd Marged Tudur, Kev Tame, Elinor Wyn Reynolds a Dafydd Rhys.

💥 Dewch draw a dewch â phawb efo chi 💥

24/07/2026

Address

Caernarfon
LL545TG

Opening Hours

Monday 9am - 5pm
Tuesday 9am - 5pm
Wednesday 9am - 5pm
Thursday 9am - 5pm
Friday 9am - 5pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Sain Recordiau posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Establishment

Send a message to Sain Recordiau:

Share