Theatr Bara Caws

Theatr Bara Caws Cwmni Theatr Proffesiynol Cymuned Cymru / Welsh Professional Community Theatre Company.

🎭 Mae'r daith yn dechrau heno yn !Mae noson gyntaf Dadra o'n blaenau, ac mae'r tŷ'n llawn 🤩Pwy sy'n ymuno â ni ar gyfer ...
07/09/2026

🎭 Mae'r daith yn dechrau heno yn !

Mae noson gyntaf Dadra o'n blaenau, ac mae'r tŷ'n llawn 🤩

Pwy sy'n ymuno â ni ar gyfer y perfformiad cyntaf? 👀

03/09/2026

Sut mae Dadra yn siarad â Chymru heddiw? Dyma Ffion Dafis i sôn mwy...🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

🔥 Mae 8 o'r 12 sioeau wedi gwerthu allan.

🎟️ Mwy o wybodaeth: theatrbaracaws.co.uk

Mae taith Dadra yn dechrau wythnos nesaf! 🎭 A dyma sydd gan Tudur Owen i'w ddweud am y ddrama...👀 Mae'r galw am Dadra we...
02/09/2026

Mae taith Dadra yn dechrau wythnos nesaf! 🎭 A dyma sydd gan Tudur Owen i'w ddweud am y ddrama...👀

Mae'r galw am Dadra wedi bod yn anhygoel, gyda mwy o nosweithiau eisoes yn gwerthu allan. Mae tocynnau bellach i lawr i'r 20% olaf mewn bron pob lleoliad, felly peidiwch ag oedi os ydych chi'n bwriadu dod i weld Dadra.

📅 Dyddiadau'r Daith:

07.09 – , Caernarfon – 🔴
08.09 – Theatr Derek Williams, Y Bala – 🔴
09.09 – , Pwllheli – 🔴
10.09 – , Y Bala – 🔴
11.09 – , Llangefni – 🔴
12.09 – Theatr Twm o’r Nant, Dinbych – 🔴
14.09 – , Bethesda – 🔴
15.09 – , Dyffryn Aeron – 🟠
16.09 – Neuadd San Pedr, Caerfyrddin – 🟠
17.09 – – 🟠
18.09 – , Pontypridd – 🟠
19.09 – , Caerdydd – 🔴

🔴 Wedi gwerthu allan
🟠 Nifer cyfyngedig o docynnau ar ôl

🎟️ Tocynnau: theatrbaracaws.co.uk

📚✨ Rydym yn hynod falch o weld ein Cadeirydd, Mared Llywelyn, yn lansio ei nofel gyntaf, Suddo.Stori deimladwy, ddoniol ...
28/08/2026

📚✨ Rydym yn hynod falch o weld ein Cadeirydd, Mared Llywelyn, yn lansio ei nofel gyntaf, Suddo.

Stori deimladwy, ddoniol a gonest am gyfeillgarwch, disgwyliadau bywyd, a llywio’r 30au pan nad yw popeth wedi mynd yn ôl y cynllun. Mae Suddo yn edrych y tu ôl i’r lluniau perffaith ac yn archwilio’r hyn sy’n wirioneddol ein hangori pan fo bywyd yn mynd ar chwâl.

🎉 Ymunwch â Mared yn lansiad swyddogol y nofel yn Neuadd Dwyfor ar Fedi 19.

Llongyfarchiadau mawr, Mared, a phob hwyl gyda’r lansiad! 💙📖

Chwerthin, straeon hyfryd a’r cysylltiad sy’n dod a ni gyd at ein gilydd 🎭🫶Wedi saib dros fis Awst, mae’n braf cael eili...
27/08/2026

Chwerthin, straeon hyfryd a’r cysylltiad sy’n dod a ni gyd at ein gilydd 🎭🫶

Wedi saib dros fis Awst, mae’n braf cael eiliad i adlewyrchu ar y gyfres hyd yn hyn, a dyma gipolwg bach cyn i ni ddychwelyd ym mis Medi.

Sgyrsia’ Soffa Goch ar gael i’w wylio ar YouTube, Spotify ac rŵan 📺

Pob hwyl i’r criw arbennig yma Cwmni Theatr yr Urdd a Theatr Cymru wrth i Calon baratoi i agor ei ddrysau!❤️ Mae’n amlwg...
27/08/2026

Pob hwyl i’r criw arbennig yma Cwmni Theatr yr Urdd a Theatr Cymru wrth i Calon baratoi i agor ei ddrysau!❤️ Mae’n amlwg bod cymaint o waith, egni a thalent wedi mynd i greu rhywbeth arbennig. Dymuniadau gorau gan bawb yn Theatr Bara Caws. 🎭✨

Tîm arbennig Calon ❤️

Llai nag wythnos i fynd nes bydd Calon yn agor ac mae’r ystafell ymarfer yn llawn egni a thalent gyda’r criw yma 🔥

Calon
27 – 29 Awst
Theatr Donald Gordon yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd
Cwmni Theatr yr Urdd mewn cydweithrediad â Theatr Cymru🤝

Tocynnau ar gael yn y sylwadau isod 🎟️

-
Our wonderful Calon team ❤️

Less than a week to go until Calon opens and the rehearsal room is full of energy and talent with this crew 🔥

Calon
27 - 29 August
Donald Gordon Theatre at the Wales Millennium Centre, Cardiff
Cwmni Theatr yr Urdd in collaboration with Theatr Cymru🤝

Tickets available through our comments below 🎟️

🎭 Halibalŵ - cyfle olaf i gofrestru!Ymunwch â chynllun drama cynhwysol sy’n grymuso pobl ag anableddau dysgu drwy greadi...
25/08/2026

🎭 Halibalŵ - cyfle olaf i gofrestru!

Ymunwch â chynllun drama cynhwysol sy’n grymuso pobl ag anableddau dysgu drwy greadigrwydd, gan feithrin hyder, lles a sgiliau cymdeithasol mewn amgylchedd hwyliog a chefnogol.

✨ Nosweithiau Llun Medi 7fed i Hydref 26ain
📍 Canolfan Porthmadog
⏰ 18:00 - 20:00
Oedran 18+

📩 Anfonwch e-bost i Mari Emlyn ar [email protected] i sicrhau eich lle ar y prosiect erbyn 28 Awst. Cyntaf i’r felin, lle i 25 yn unig!

Mewn cydweithrediad agos gyda a gyda diolch i gronfa Celfyddydau, Iechyd a Lles rhaglen y Loteri am y gefnogaeth ariannol.

Mae'r adolygiad cyntaf i mewn 👀 Diolch enfawr i Jeremy Turner am y geiriau caredig ar Dadra ✨ Mae’r ymateb hyd yn hyn we...
20/08/2026

Mae'r adolygiad cyntaf i mewn 👀

Diolch enfawr i Jeremy Turner am y geiriau caredig ar Dadra ✨ Mae’r ymateb hyd yn hyn wedi bod yn arbennig, gyda sawl noson eisoes wedi gwerthu allan! Os ydych chi’n meddwl dod, mae’n werth bachu tocyn yn gynnar.

📅 Dyddiadau’r Daith:
07.09 – , Caernarfon – 🔴
08.09 – Theatr Derek Williams , Y Bala
09.09 – , Pwllheli – 🔴
10.09 – , Y Bala 🔴
11.09 – , Llangefni – 🔴
12.09 – Theatr Twm o’r Nant, Dinbych
14.09 – , Bethesda
15.09 – , Dyffryn Aeron
16.09 – Neuadd San Pedr, Caerfyrddin
17.09 –
18.09 – , Pontypridd
19.09 – , Caerdydd

*🔴 Wedi gwerthu allan

🎟️ Tocynnau: theatrbaracaws.co.uk

Newid lleoliad - Dadra, Cerrigydrudion  🚨 Oherwydd gwaith adeiladu sy’n digwydd yn Neuadd Cerrigydrudion Menter Iaith Co...
19/08/2026

Newid lleoliad - Dadra, Cerrigydrudion 🚨 Oherwydd gwaith adeiladu sy’n digwydd yn Neuadd Cerrigydrudion Menter Iaith Conwy yn ystod y dydd, mae’r perfformiad a oedd i fod yn Cerrigydrudion ar 8fed o Fedi wedi’i symud i , Y Bala 🎭

Os oeddech wedi rhoi eich henw ar restr Cerrig, gallwch brynu tocyn i’r sioe yn y Bala drwy ddilyn y ddolen yma: theatrbaracaws.co.uk 🎟️

Mae perfformiad 10fed o Fedi yn Theatr Derek Williams bellach wedi gwerthu allan, felly rydym yn annog unrhyw un sydd heb docyn i sicrhau un ar gyfer yr 8fed o Fedi.

Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra, ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i weld Dadra yn Neuadd Derek Williams ar yr 8fed a 10fed o Fed 🩵

Address

Cibyn Industrial Estate Unit A1
Caernarfon
LL552BD

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Theatr Bara Caws posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share