22/08/2026
❤️ BANGOR... DAN NI DDIM ỴN GWYBOD BE I DDWEUD.
Mae hi wedi cymryd wythnos gyfan i ni eistedd lawr ac ysgrifennu'r post yma. Yn rhannol am ein bod ni dal yn trio dod dros y cyfan 😂, ond yn bennaf am ein bod ni wedi bod yn trio ffeindio'r geiriau iawn i ddiolch yn iawn i bawb wnaeth wneud Gŵyl Haf Bangor 2026 yr hyn oedd hi.
Ac a dweud y gwir... WOW.
Roedden ni'n gwybod bod dydd Sadwrn yn brysur. Roedden ni'n gallu ei weld. Roedden ni'n gallu ei deimlo.
Roedd y Stryd Fawr yn bownsio. Roedd pob ardal yn llawn teuluoedd yn mwynhau eu hunain. Roedd yr awyrgylch yn drydanol. Ac wrth i'r haul fachlud, roedd cannoedd ohonoch chi dal efo ni wrth y Brif Lwyfan, yn canu, dawnsio ac yn dod â diwrnod hollol anhygoel i ben.
Ond wedyn daeth yr amcangyfrif o'r niferoedd...
DROS 20,000. 🤯
Amcangyfrif o dros 20,000 o ymweliadau drwy gydol y dydd i Ŵyl Haf Bangor.
Hyd y gwyddom ni, mae hynny'n cynrychioli lefel o bresenoldeb sydd heb ei gweld mewn digwyddiad yng nghanol dinas Bangor o fewn cof.
A dan ni wir dal ddim cweit yn gallu cael ein pennau o gwmpas hynny.
Ond nid niferoedd sy'n gwneud gŵyl. Pobl sy'n gwneud hynny.
Felly dyma ein DIOLCH ANFERTH ni.
❤️ I bob un perfformiwr ac act wnaeth gamu ar un o'n llwyfannau a rhoi diwrnod mor anhygoel o adloniant i Fangor.
🎛️ A DIOLCH ANFERTH i'n technegwyr sain, goleuo a llwyfan gwych. Y bobl tu ôl i'r llenni sydd rywsut yn gwneud i bopeth weithio, yn cadw'r gerddoriaeth i fynd, y llwyfannau i redeg, ac yn delio efo beth bynnag sy'n cael ei daflu atyn nhw drwy gydol y dydd. Roeddech chi'n sêr go iawn!
❤️ I bawb oedd yn darparu'r atyniadau, yr adloniant, y stondinau, y bwyd a'r gwasanaethau wnaeth ddod â chanol y ddinas yn fyw.
❤️ I'r busnesau lleol wnaeth gefnogi'r digwyddiad a chroesawu miloedd o bobl i Fangor.
❤️ I bawb oedd yn gweithio tu ôl i'r llenni, ein gwirfoddolwyr, staff y Cyngor a phob unigolyn wnaeth chwarae rhan mewn gwneud i ddigwyddiad o'r maint yma ddigwydd go iawn.
❤️ I'n noddwyr, cefnogwyr a phartneriaid, sydd drwy eu cefnogaeth yn ein helpu ni i gadw Gŵyl Haf Bangor yn hygyrch i bawb.
Ac yn olaf...
❤️ I BOB UN OHONOCH CHI.
Pob teulu wnaeth hel y plant at ei gilydd a dod i Fangor. Pob criw o ffrindiau wnaeth wneud diwrnod ohoni. Pob person wnaeth deithio o lefydd eraill yng Ngogledd Cymru a thu hwnt. Pawb wnaeth ddawnsio, canu, chwerthin, siopa, bwyta, tynnu lluniau, cyfarfod cymeriadau, gwylio perfformiadau a jyst mwynhau'r awyrgylch.
Chi wnaeth wneud dydd Sadwrn yr hyn oedd o.
Mi allwn ni dreulio misoedd yn cynllunio, trefnu, bwcio a hyrwyddo. Mi allwn ni lenwi Bangor efo llwyfannau, atyniadau, adloniant a gweithgareddau.
Ond dydy'r un ohonyn nhw'n golygu dim byd os nad ydy pobl yn dod.
A wir ar... mi ddaethoch chi! 😂❤️
Roedd 'na ambell i hiccup ar hyd y ffordd. Mae 'na wastad pan dach chi, i bob pwrpas, yn troi canol dinas gyfan yn safle gŵyl am ddiwrnod. Ond roedd gweld Bangor mor fyw o un pen o ganol y ddinas i'r llall yn gwneud pob noson hwyr, pob galwad ffôn, pob spreadsheet a phob “be uffar dan ni'n mynd i'w wneud am HYN?!” yn werth chweil. 😂
Y llynedd, dangosodd dros 14,000 ohonoch chi i ni beth allai Gŵyl Haf Bangor fod.
Eleni, mi aethoch chi â hi i lefel hollol wahanol.
Gan y tri pherson sydd wedi blino braidd tu ôl i Ŵyl Haf Bangor (ie... dim ond TRI ohonon ni sydd wir yn trefnu'r holl beth! 😂):
Diolch, Bangor.
Diolch, Gogledd Cymru.
Diolch i bob un ohonoch chi wnaeth helpu i wneud iddo ddigwydd.
Roedd dydd Sadwrn, 15 Awst 2026, yn rhywbeth arbennig iawn, iawn.
A fyddwn ni byth yn ei anghofio. ❤️
Eirian, Nigel & Carwyn
Tîm Trefnu Gŵyl Haf Bangor