Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre Mwy na chanolfan y celfyddydau. Ni yw'r lle am amser da. We're more than an arts centre. We're the place for time well spent.
(280)

Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth, sydd wedi ennill sawl wobr, yw'r ganolfan fwyaf o'i math yng Nghymru ac fe'i hystyrir yn genedlaethol fel canolfan flaenllaw ac arloesol ym myd y celfyddydau. Mae ganddi raglen artistig eang, o safbwynt cynhyrchu a chyflwyno, ar draws holl ystod y celfyddydau gan gynnwys drama, dawns, cerddoriaeth, y celfyddydau gweledol, y celfyddydau cymhwysol, ffilm, cyfrynga

u newydd a chelfyddydau cymunedol ac fe'i cydnabyddir fel canolfan genedlaethol ar gyfer datblygu'r celfyddydau. Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn adran o Brifysgol Aberystwyth ac yn aelod o'r Cyfadran y Celfyddydau a'r Gwyddorau Cymdeithasol (CCGC). 'Rydym yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr o fewn yr athrofa sy'n cynnwys yr Ysgol Gelf, Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu, Saesneg ac Ysgrifennu Creadigol, Ieithoedd Ewropeaidd, y Gymraeg ac Astudiaethau Celtaidd a'r Ganolfan Gerddoriaeth. Am ragor o wybodaeth am yr athrofa, cliciwch yma https://www.aber.ac.uk/cy/about-us/faculties/arts-social-sciences/

Lleolir Canolfan y Celfyddydau ar ganol campws y Brifysgol, gyda golygfeydd ysblennydd ar draws tref Aberystwyth ac arfordir Bae Ceredigion.

--------------------------------------------------------------------------

Award winning Aberystwyth Arts Centre is Wales’ largest arts centre and recognised as a 'national flagship for the arts'. It has a wide-ranging artistic programme, both producing and presenting, across all art forms including drama, dance, music, visual arts, applied arts, film, new media, and community arts and is recognised as a national centre for arts development. Aberystwyth Arts Centre is a department of Aberystwyth University and a member of the Faculty of Arts and Social Sciences (FASS). We work closely with our fellow Institute colleagues who include the School of Art, Theatre, Film and Television Studies, English and Creative Writing, European Languages, Welsh and Celtic Studies and the Music Centre. For more information on the faculty, click here https://www.aber.ac.uk/en/about-us/faculties/arts-social-sciences/


The Arts Centre sits at the heart of the university's campus, with stunning views over the town of Aberystwyth and along the coastline of Cardigan Bay.

CEREDIGION FESTIVAL OF REMEMBRANCE - 10 TACH / NOV - 19:30 Mae Gŵyl Goffa Ceredigion 2026 yn dod â rhai o dalentau cerdd...
05/09/2026

CEREDIGION FESTIVAL OF REMEMBRANCE - 10 TACH / NOV - 19:30

Mae Gŵyl Goffa Ceredigion 2026 yn dod â rhai o dalentau cerddorol mwyaf nodedig Cymru ynghyd ar gyfer noson deimladwy o fyfyrio, diolchgarwch a choffáu. Gyda'r tenorion Cymreig enwog Wynne Evans a Mark Llewelyn Evans, ochr yn ochr â Côr a Cherddorfa y Tair Sir a Seindorf A***n Aberystwyth, mae'r Ŵyl yn talu teyrnged i wasanaeth ac aberth Cymuned y Lluoedd Arfog drwy gerddoriaeth, seremoni a choffâd.

Wedi'i chynnal yng nghalon Ceredigion, mae'r digwyddiad arbennig hwn yn anrhydeddu cyn-filwyr, personél sy'n gwasanaethu, aelodau wrth gefn a'u teuluoedd, gan roi cyfle i'r gymuned ehangach ddod ynghyd i gofio. Ymunwch â ni am noson o berfformiadau ysbrydoledig a myfyrdod diffuant wrth inni gofio'r rhai sydd wedi gwasanaethu a'r rhai sy'n parhau i wasanaethu.
12+ oed YN UNIG

The Ceredigion Festival of Remembrance 2026 brings together some of Wales' finest musical talent for a moving evening of reflection, gratitude and remembrance. Featuring celebrated Welsh tenors Wynne Evans and Mark Llewelyn Evans, alongside the Three Counties Choir & Orchestra and Aberystwyth Town Silver Band, the Festival pays tribute to the service and sacrifice of the Armed Forces Community through music, ceremony and commemoration.

Returning to Aberystwyth Art Centre, this special event honours veterans, serving personnel, and members of the Armed Forces family, while providing an opportunity for the wider community to come together in remembrance. Join us for an evening of inspiring performances and heartfelt reflection as we remember those who have served and those who continue to serve.
STRICTLY 12+ years

Archebwch nawr | Book now:
https://aberystwythartscentre-tickets.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173692519
Ffôn / Phone 01970 62 32 32

TRIPTYCH - 14 HYD / OCT -  19:30Archebwch nawr | Book now:https://aberystwythartscentre-tickets.ticketsolve.com/ticketbo...
05/09/2026

TRIPTYCH - 14 HYD / OCT - 19:30

Archebwch nawr | Book now:
https://aberystwythartscentre-tickets.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173676739
Ffôn / Phone 01970 62 32 32

Cyfuniad syfrdanol o symudiad, cerddoriaeth a golau.
Mae tri darn repertoire unigryw yn ystyried gwahanol bosibiliadau barddonol - rhythmau a chylchoedd cyffredinol a berfformir gan gwmni dawnswyr Major. Mae hon yn noson hudolus o ddawns, o gysylltiad rhwng bydoedd mewnol ac allanol - o an-ddeuoldeb - y cyfan wedi'i osod o fewn trobwll chwyrlïol o symudiad, sain a golau.
Canllaw Oedran: 8+ oed
Sgwrs wedi'r Sioe yn y stiwdio 2D.

A stunning fusion of movement, music and light.
Three unique repertoire pieces investigate various poetic possibilities, universal rhythms and cycles performed by Major's company of dancers. This is a captivating evening of dance, of connection between internal and external worlds - of non-duality - all set within a whirling maelstrom of movement, sound and light.
Age Guidance: 8+ years.
Post Show talk in the 2D studio.

Peidiwch â cholli LIEN - perfformiad am ddim yn Stiwdio Ddawns 1 (18+ oed)
Don't miss LIEN a free performance in Dance Studio 1 ( Age 18+ )
https://aberystwythartscentre-tickets.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173676742

04/09/2026

PRESSURE (12A) 11-24 MED / SEP 🎬

Yn y 72 awr llawn tensiwn cyn D-Day, a gyda thynged y byd rhydd yn y fantol, mae'r Capten James Stagg (Andrew Scott) a'r Cadfridog Dwight D. Eisenhower (Brendan Fraser) yn wynebu dewis amhosibl - lansio'r goresgyniad morwrol mwyaf a mwyaf peryglus mewn hanes neu risgio colli'r rhyfel yn gyfangwbl. Mae Damian Lewis hefyd yn serennu yn y cipolwg dwys a gafaelgar hwn ar sut yr oedd un o'r momentau mwyaf allweddol mewn hanes yn dibynnu ar un elfen Brydeinig gwbl anrhagweladwy: y tywydd.

In the tense 72 hours before D-Day, and with the fate of the free world hanging in the balance, Captain James Stagg (Andrew Scott) and General Dwight D. Eisenhower (Brendan Fraser) face an impossible choice - launch the largest and most dangerous seaborne invasion in history or risk losing the war altogether. Damian Lewis also stars in this intense, gripping look at how one of the most pivotal moments in history hinged on one very unpredictable British ingredient: the weather.

HOH : Dangosiad gydag isdeitlau ar 14 Medi am 5.45yp
HOH : Subtitled Screening on 14 September at 5.45pm
HOH : Dangosiad gydag isdeitlau ar 22 Medi am 12yp
HOH : Subtitled Screening on 22 September at 12pm

Archebwch nawr | Book now:
https://aberystwythartscentre-tickets.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173692733/events/428890412
Ffôn / Phone 01970 62 32 32

04/09/2026

toooB - 3 TACH / NOV - 11:30 & 13:00

Gan gyflwyno toooB, creadur chwilfrydig a chyfeillgar sy'n newid siâp. Nid yw hi cweit yn siwr lle mae hi wedi glanio ond byddai wrth ei bodd yn cwrdd â chi a chwarae!

Dyma sioe hudolus ddi-eiriau i blant 6-24 mis oed a'u hoedolion. Anturiaeth synhwyraidd ysgafn gyda thrac sain gwreiddiol, symudiad cyfareddol a hwyl a gemau rhyngweithiol; mae toooB yn gyflwyniad perffaith i theatr a dawns i'r rhai ifanc iawn ac yn cynnwys sesiwn aros-a-chwarae gyda'r perfformiwr. (Cyfanswm yr amser rhedeg gan gynnwys y chwarae - 50 munud)
6-24 mis

Crewyd gan Angel Exit Theatre, dylunwyd gan Verity Quinn a chyfansoddwyd gan Tom Ball. Cefnogir y cynhyrchiad hwn gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a Lighthouse, Canolfan Gelfyddydau Poole.

Introducing toooB, a curious and friendly shape-shifting creature. She's not quite sure where she's landed but she'd love to meet and play with you.

toooB is an enchanting wordless show for 6-24 month olds and their grown ups. A gentle sensory adventure with an original soundtrack, captivating movement and interactive fun and games; toooB is a perfect introduction to theatre and dance for the very young and includes a stay and play session with the performer. (Total running time including play 50 mins)

Created by Angel Exit Theatre, designed by Verity Quinn and composed by Tom Ball. This production is supported by Arts Council England and Lighthouse, Poole's Centre for the Arts.
6-24 months

Archebwch nawr | Book now:
https://aberystwythartscentre-tickets.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173687208
Ffôn / Phone 01970 62 32 32

04/09/2026

Uchafbwyntiau sinema mis Medi! September cinema highlights! 🎬

Gofynnon ni'r arbenigwr ffilm lleol Nia ddewis rhai uchafbwyntiau o'r ffilmiau sy'n dod i sinema Canolfan y Celfyddydau'r mis yma! O glasuron pur fel Raiders of the Lost Ark a Whisper of the Heart, a'r ffilm ddiweddaraf gan yr auteur modern Pedro Almodóvar, i waith arloesol William Haggar a stori un o'r 'methiannau' mwyaf dadleuol yn hanes Hollywood, mae digon o ddewid i bob ffan ffilmiau a selogion sinema!

We asked local film expert Nia to pick out some highlights from what's coming up at the Arts Centre cinema this month! From bona fide classics like Raiders of the Lost Ark and Whisper of the Heart, and the latest film from modern auteur Pedro Almodóvar, to the pioneering work of William Haggar and the story of one of the most contentious 'flops' in Hollywood history, there's plenty of choice for all film fans and cineastes!

Dewisiadau Nia / Nia’s picks:
• Scent of a Woman
• Bitter Christmas
• Raiders of the Lost Ark
• William Haggar: The Pioneer of Cinema in Wales
• The Incomer
• Whisper of the Heart
• Boorman and the Devil + Exorcist II: The Heretic

Manylion llawn ar ein gwefan / Full details on our website!

Archebwch nawr | Book now:
https://aberystwythartscentre.co.uk/event-listing/?category=,cinema&date&event_type=entertainment
Ffôn / Phone 01970 62 32 32

DYLAN MORAN: LOOKING FOR TROUBLE - 29 HYD / OCT - 20:00 🤣Amser gweithredu. Be ‘dach chi’n mynd i wneud? ‘Dach chi’n mynd...
03/09/2026

DYLAN MORAN: LOOKING FOR TROUBLE - 29 HYD / OCT - 20:00 🤣

Amser gweithredu. Be ‘dach chi’n mynd i wneud?
‘Dach chi’n mynd i fynd i'r gwaith? Neu aros yn y gwely, yn cwrso ebargofiant. Dyfalwch beth?
‘Does dim ebargofiant ar ôl.
Bydd yr Economi'n gwneud yn iawn hebdoch chi - ond pa mor hir fyddwch chi'n goroesi heb y mwg enfawr arferol o latte caramel wedi'i rewi a'r pum mil o ddarnau eraill o rwtsh ‘rydych chi wedi'u malu at ei gilydd fel y gallwch chi bwyntio ato a chrawcian 'Dyna fy ... mywyd?'

‘Nawr, ‘nawr, yr holl ddrama ‘ma a ‘dan ni ddim allan trwy’r drws eto.

Ffeindiwch allan sut y gallai popeth wedi bod yn wahanol. Ffeindiwch allan sut i ail-hawlio’ch bywyd trwy ddod yn bencampwr gwyddbwyll neu’n gicfocsiwr angheuol. Arloeswch dueddiadau newydd mewn creu cariad byd-eang, ymunwch â band elitaidd o feirdd, cogyddion, mynyddwyr. Jyst ewch
I EDRYCH AM DRWBWL

Sioe newydd sbon gan y digrifwr sydd wedi ennill gwobrau BAFTA a Perrier ac sy’n seren Black Books, Dylan Moran.

Showtime. What are you going to do?
Are you going to go to work? Or stay in bed, chasing oblivion. Guess what?
We're fresh out of oblivion.
The Economy will do fine without you - but how long will you survive without the usual giant horn of frozen caramel latte and the five thousand other pieces of bu****it you have smushed together so you can point at it and croak ‘That’s my ..life?’
Now, now, all this drama and we’re not even out the door yet.
Find out how it could all have been different. Find out how to reclaim your life by becoming a lethal kickboxing, chess champion. Pioneer new trends in global lo******ng, join tan elite band trillionaire poet/pastry chef/mountaineers. Just go

LOOKING FOR TROUBLE

A brand new show from BAFTA and Perrier awarding winning comedian & star of Black Books, Dylan Moran.

Archebwch nawr | Book now:
https://aberystwythartscentre-tickets.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173676275
Ffôn / Phone 01970 62 32 32

02/09/2026

CDCC / NDCW: BLUE / GLAS - 18-19 TACH / NOV - 19:30

Gadewch i CDCCymru eich tywys drwy noson o ddawns enbyd o hardd.

Pan nad yw geiriau’n ddigon, gall symudiad a chyffyrddiad ein sefydlogi. Mae ‘Ordinary Courage’ gan Theo Clinkard yn adlewyrchiad didwyll o alar, colled a chryfder tawel cysylltiad dynol.
Yn dwymgalon ac yn drawiadol iawn, bydd yn sicr o aros yn eich cof.

Mae ‘Untamed’ gan Alesandra Seutin, Enwebai Gwobr Olivier 2026
wedi’i wreiddio yn yr ysfa ddynol i redeg.
Cyrff wedi’u pweru gan emosiwn yn barod am ryddhad. Wedi’i gosod i drac sain ysgogol sy’n cynnwys offerynnau Cymreig traddodiadol a lleisiau cyndadol, bydd y ddawns athletaidd, awdurdodol yn bywiogi’r synhwyrau, yn puro’r enaid a’ch gadael yn syfrdan.
7+ oed

NDCWales hold your hand through a desperately beautiful evening of dance.

When words fall short, movement and touch can ground us. ‘Ordinary Courage’ by Theo Clinkard is a sincere reflection on grief, loss and the quiet strength of human connection.
Warm and deeply moving, this will linger with you.

‘Untamed’ by 2026 Olivier Award Nominee Alesandra Seutin is rooted in the human urge to run. Bodies charged with emotion coil like springs ready to release.
Set to a driving soundtrack including traditional Welsh instruments and ancestral voices, this athletic, commanding dance will leave you breathless.

Archebwch nawr | Book now:
https://aberystwythartscentre-tickets.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173687007
Ffôn / Phone 01970 62 32 32

7+

MAKING ART AFTER MAKING LIFE WORKSHOP - 23 MED / SEP - 10:00 - 12:00 🎨Archebwch nawr | Book now:Trwy ein dolen gwefan yn...
02/09/2026

MAKING ART AFTER MAKING LIFE WORKSHOP - 23 MED / SEP - 10:00 - 12:00 🎨

Archebwch nawr | Book now:
Trwy ein dolen gwefan yn y bio / via our website link in bio
Ffôn / Phone 01970 62 32 32

GWEITHDY I RIENI NEWYDD I AIL-GYNNAU'R TÂN CREADIGOL
A WORKSHOP FOR NEW(ISH) PARENTS TO REIGNITE THE CREATIVE FIRE

Gall gweithio ym maes y celfyddydau fod yn waith caled, yn flinedig ac yn ddi-ddiolch. Felly hefyd bod yn rhiant. Mae ceisio gwneud y ddau heb gefnogaeth deimlo'n amhosibl, felly penderfynwyd sefydlu MatriArt.

Mae hwn yn weithdy sydd wedi'i hwyluso, sy’n gefnogol ac sy’n grymuso, i ail-gynnau'r tân creadigol, gyda Marie Hamilton, awdur a pherfformwraig Madonna On The Rocks, ac mae’n dod i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth ar 18fed Tachwedd.

Dyma le i chwerthin, crio, breuddwydio, ysgogi, ac i roi a chael atebolrwydd.

Chwarae: Ymarferion creadigol wedi'u hwyluso i ailagor y sianeli creadigol.
Rhannu: Trafod a datrys problemau prosiectau sydd ar ddod.
Cysylltu: Cwrdd â mamau lleol gwych ac ysbrydoledig eraill sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol, ac adeiladu eich pentref.

Dewch â’ch babi neu ei adael gartref, dyma le i chi. Mae gennym deganau, cyfleusterau newid, parc bygis a pharau ychwanegol o ddwylo os oes angen i chi ddefnyddio'ch rhai chi!

Working in the arts can be gruelling, exhausting and thankless. So can being a parent. Trying to do both without support can feel impossible, so we started MatriArt.

This is a facilitated, supportive, empowering workshop to reignite the creative fire, with Marie Hamilton writer and performer of Madonna On The Rocks, coming to Aberystwyth Arts Centre 18th November.

This is a space to laugh, cry, dream, galvanise, and to give and get accountability.

Play: Facilitated creative exercises to re-open those creative channels.
Share: Discuss & troubleshoot upcoming projects.
Connect: Meet other brilliant, inspiring local mamas working in the creative industries, and build your village.

BYO baby or leave them at home, this is a space for you. We have toys, changing facilities, a buggy park and extra pairs of hands if you need to use yours!

A SONG & DANCE - 3 TACH / NOV  - 19:30‘Dydy Action Hero yn bendant ddim am greu sîn.Wedi'i golli mewn hunllef ddibaid, m...
01/09/2026

A SONG & DANCE - 3 TACH / NOV - 19:30

‘Dydy Action Hero yn bendant ddim am greu sîn.

Wedi'i golli mewn hunllef ddibaid, mae actor anfodlon yn dychwelyd i'r llwyfan. Mewn ymdrech i oresgyn cyfnod o 8 mlynedd o ofn llwyfan dwys - ac y tu mewn i fyd breuddwydion lle mae rhithiau ei hynafiaid beirniadol yn byw - mae'n ailchwarae ei hunangofiant ei hun ac yn dechrau colli'r plot.

Ond nid yw am wneud môr a mynydd o’r peth. Yn lle hynny, mae'n benderfynol o gadw'r sioe ar y ffordd, gan ailysgrifennu ei freuddwydion pryder yn fyw ar y llwyfan yn y gobaith o gael gwared ar ysbrydion perfformiadau'r gorffennol.

Mae A Song and Dance yn hunllef abswrdaidd o berfformiad am guddio, perfformio a ‘chwarae’r rhan.’
16+ oed

Action Hero are definitely not making a scene.

Lost inside a recurring nightmare, a reluctant actor returns to the stage. In an attempt to conquer an 8-year period of intense stage fright - and inside a dream-world inhabited by the phantoms of his disapproving ancestors - he is replaying his own autobiography and starting to lose the plot.

But he’s not gonna make a big song and dance about it. Instead, he’s determined to keep the show on the road, re-writing his anxiety dreams live on stage in the hope of banishing the ghosts of performances past.

A Song and Dance is an absurdist nightmare of a performance about masking, performing and ‘acting the part.’
16+

Archebwch nawr | Book now:
https://aberystwythartscentre-tickets.ticketsolve.com/ticketbooth/shows/1173687221
Ffôn / Phone 01970 62 32 32

Address

Aberystwyth University/Penglais Campus
Aberystwyth
SY233DE

Opening Hours

Monday 8am - 8pm
Tuesday 8am - 11pm
Wednesday 8am - 11pm
Thursday 8am - 11pm
Friday 9am - 11pm
Saturday 9am - 11pm
Sunday 10am - 8pm

Telephone

+441970623232

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth Arts Centre posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share