Creadigol Penweddig

Creadigol Penweddig Cyfadran Diwydiannau Creadigol Ysgol Penweddig

Cyfle arbennig i ddatblygu eich sgiliau peintio - disgyblion blwyddyn 9 bydd yn cael blaenoriaeth, ond os bydd lle bydd ...
04/09/2026

Cyfle arbennig i ddatblygu eich sgiliau peintio - disgyblion blwyddyn 9 bydd yn cael blaenoriaeth, ond os bydd lle bydd cyfle i ddisgyblion blwyddyn 8 fynychu. 🎨🖌️🖼️

Pleser pur oedd gwylio llond llwyfan Canolfan y Mileniwm o bobl ifanc disglair yn perfformio’r sioe ‘Calon’ neithiwr. Ry...
30/08/2026

Pleser pur oedd gwylio llond llwyfan Canolfan y Mileniwm o bobl ifanc disglair yn perfformio’r sioe ‘Calon’ neithiwr. Ry’n ni mor falch bod 7 ohonynt yn aelodau o deulu Ysgol Penweddig - Gwilym, Myfanwy, Megan, Glain, Catrin Haf a Catrin Aur yn perfformio ar y llwyfan a Gethin yn aelod o’r tîm technegol. Dyma sioe llawn lliw, egni ac emosiwn ac yn llawn dop o glasuron Caryl Parry Jones. Llongyfarchiadau i Cwmni Theatr yr Urdd Urdd Gobaith Cymru a diolch am roi llwyfan a llais i’n pobl ifanc Creadigol ⭐️🎶🎭💖

20/08/2026
Mae cyfres arbennig ar Sky Arts ar hyn o bryd sy’n dilyn hanes corau meibion o Gymru, ac mae un pennod yn canolbwyntio a...
17/08/2026

Mae cyfres arbennig ar Sky Arts ar hyn o bryd sy’n dilyn hanes corau meibion o Gymru, ac mae un pennod yn canolbwyntio ar Gôr Meibion Machynlleth o dan arweiniad ein Mr Aled Myrddin ni! Braf oedd gweld Mr Myrddin yn sgwrsio am y profiad o ffilmio’r gyfres ar soffa Heno S4C Gallwch wylio’r gyfres ar sianel Sky Arts 🎶🤩

Pob hwyl i Steffan Jones a Gruffydd Sion sydd wrthi yn ymarfer gyda Band pres Cenedlaethol ieuenctid Cymru - bydd y band...
15/08/2026

Pob hwyl i Steffan Jones a Gruffydd Sion sydd wrthi yn ymarfer gyda Band pres Cenedlaethol ieuenctid Cymru - bydd y band yn perfformio mewn cyngherddau ym Mangor, Tŷ Ddewi a Chasnewydd ar ddiwedd y mis. 🎺🪊🎶

Pob hwyl i Megan, Gwilym a Myfanwy sydd wrthi yn ymarfer gyda criw Cwmni Theatr yr Urdd yng Nglanllyn. Bydd y tri yn per...
14/08/2026

Pob hwyl i Megan, Gwilym a Myfanwy sydd wrthi yn ymarfer gyda criw Cwmni Theatr yr Urdd yng Nglanllyn. Bydd y tri yn perfformio ar lwyfan Wales Millennium Centre ar ddiwedd y mis fel aelodau o gast sioe gerdd newydd sbon ‘Calon’. Braf gweld cyn-ddisgyblion yr ysgol yn aelodau o’r cast hefyd - Glain Llwyd, Catrin Haf a Catrin Aur, ac mae Gethin Owen-Hughes yn aelod o’r tim technegol. Mae dal cyfle i fachu tocyn i weld y sioe arbennig yma sy’n cynnwys rhai o ganeuon eiconig Caryl Parry Jones -

https://www.wmc.org.uk/cy/digwyddiadur/2026/calon/performances

12/08/2026
12/08/2026
Pob lwc i un o gyn-ddisgyblion yr Adran Bwyd a Maeth - Caitlin Meredith! 👩🏻‍🍳🥘🥗🍝Gallwch bleidleisio trwy ddilyn y ddolen...
10/08/2026

Pob lwc i un o gyn-ddisgyblion yr Adran Bwyd a Maeth - Caitlin Meredith! 👩🏻‍🍳🥘🥗🍝
Gallwch bleidleisio trwy ddilyn y ddolen yma -
www.britishrestaurantawards.org

Address

Aberystwyth

Website

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Creadigol Penweddig posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Establishment

Send a message to Creadigol Penweddig:

Shortcuts

Share