Dysgu Creadigol / Creative Learning - Aberystwyth Arts Centre

Dysgu Creadigol / Creative Learning - Aberystwyth Arts Centre Dewch i gael eich Ysbrydoli - Byddwch yn Greadigol! Be Inspired - Get Creative! Edrychwn ymlaen at eich croesawu i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn fuan!

‘Rydym yn dîm bach o 3, yn gweithio gyda thîm o dros 40 o artistiaid a thiwtoriaid talentog i drefnu’n rheolaidd dros 7,000 o wersi bob blwyddyn. Mae’r sawl sy’n cymryd rhan o bob oedran, o’r babis sy’n mynychu ein Clwb 123 poblogaidd i’r oedolion 80+ sy’n cymryd rhan yn ein gwahanol ddosbarthiadau celf. Mae llawer o’n cyfranogwyr yn astudio ar gyfer arholiadau LAMDA, RAD, ISTD yn ogystal â’r Wobr

Gelfyddydau sy’n galluogi pobl ifanc rhwng 5-25 oed i ennill cymhwyster a gydnabyddir yn genedlaethol mewn amrywiaeth o’r ffurfiau celf. Credwn fod gennym ‘rywbeth at ddant pawb’ - o fodelu mewn clai i theatr ieuenctid, animeiddiad i ddawnsio Bollywood. Mae gennym Ysgol Ddawns, Ysgol Lwyfan a Theatr Ieuenctid llewyrchus, yn ogystal â dosbarthiadau celfyddydau gweledol rheolaidd i oedolion a phlant. ‘Rydym hefyd yn trefnu Prosiectau Cymunedol megis
Cartref, Breuddwydiwch Freuddwyd, Hei Clai a Byddwch y Greadigol. ‘Rydym yn rheoli Criw Celf Ceredigion - rhaglen addysg gelfyddydol i bobl ifanc 12-18 oed sy’n cael eu hystyried yn ‘Fwy Abl a Thalentog’ yn y celfyddydau gweledol. Ers mis Mawrth 2020 ‘rydym wedi symud at ddysgu ar-lein gan gyflwyno amrywiaeth o ffurfiau celf i bobl o bob oedran yn eithaf llwyddiannus.

‘Rydym yn hyderus y byddwch yn ffeindio bod cost y dosbarthiadau yn rhesymol iawn - cymerwch amser allan i dretio’ch hun neu dewch â ffrind gyda chi i ymuno yn yr hwyl! Yn aml mae’n bosibl ymuno â dosbarth ar ôl y dyddiad dechrau, felly jyst cysylltwch â ni i holi. Dysgwch sgil newydd, datblygwch grefft neu ewch ati i wella’r ffurf gelf yr ydych yn ymddiddori ynddi - y cyfan mewn amgylchedd cyfeillgar, cefnogol, gyda chyfleusterau ardderchog y byddai’n anodd dod o hyd iddynt rywle arall yng Nghanolbarth Cymru. We are a small team of 3, working with a team of over 40 talented artists and tutors and regularly delivering over 7,000 lessons each year. Our participants are all ages, from babies taking part in our popular Clwb 123 to adults aged 80+ taking part in our various art classes. Many of our participants study for exams in LAMDA, RAD, ISTD as well as Arts Award which enables people aged 5-25 to gain a nationally recognised qualification in a variety of art forms. We think there’s ‘something for everyone’ – from clay modelling to youth theatre, animation to Bollywood dance. We have a thriving Dance School, Stage School and Youth Theatre, as well as regular visual arts classes for adults and children. We also deliver Community Projects, such as Cartref, Dream a Dream, Hey Clay and Get Creative. We manage Criw Celf Ceredigion – an arts education programme for young people aged 12-18 who are identified as being ‘More Able and Talented’ in the visual arts. Since March 2020 we have diversified into online teaching – delivering a variety of artforms to all ages with great success. We are confident you’ll find the cost of classes very reasonable - take some time just for you or bring a friend and share the fun! It is often possible to join a class after the start date, just drop us a line to enquire. Learn a new skill, develop a craft or become proficient in your preferred artform – all in a friendly, supportive environment, with excellent facilities that are hard to find elsewhere in Mid-Wales. Am ragor o wybodaeth cysylltwch â:
[email protected] / 01970 622888

We look forward to welcoming you to Aberystwyth Arts Centre soon! For further information please contact:
[email protected] / 01970 622888

Mae'r tîm Dysgu Creadigol yn ôl yn y Bandstand heddiw. Ymunwch â ni bob dydd Mercher yn ystod gwyliau'r haf, rhwng 11 ac...
29/07/2026

Mae'r tîm Dysgu Creadigol yn ôl yn y Bandstand heddiw. Ymunwch â ni bob dydd Mercher yn ystod gwyliau'r haf, rhwng 11 ac 4, ar gyfer gweithgareddau celf a chrefft am ddim.

Team Creative Learning are back at the Bandstand today. Join us every Wednesday during the Summer holidays 11-4 for free arts and crafts activities.

23/07/2026

Arolwg Ymgysylltu â Chelfyddydau, Iechyd a Lles | Arts, Health & Wellbeing Engagement Survey

Rydym yn awyddus i ddeall beth sy’n helpu pobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau celfyddydau a lles, beth sy’n ei gwneud yn anodd, a sut gellir gwella mynediad yng Nghanolfan y Celfyddydau ac mewn lleoliadau cymunedol. Mae eich atebion yn anhysbys a byddant yn ein helpu i lunio gweithgareddau yn y dyfodol sy’n cael eu cyflwyno trwy Haul @ Canolfan y Celfyddydau ac mewn mannau cymunedol, grwpiau, a sefydliadau partner. Dylai gymryd tua 3-4 munud.

Mae Canolfan Celfyddydau yn dod â chymunedau ynghyd sydd a’r profiadau celfyddydol gorau oll. Mae’n un o leoliadau mwyaf adnabyddus Cymru, gan gyflwynorhaglen gelfyddydol ac ymgysylltu eang gydol y flwyddyn. Nod menter Haul Arts in Health (sefydlwyd 1995) yw hyrwyddo’r celfyddydau ym maes gofal iechyd ar bob lefel, gan gydnabod y gall hyn fod yn ffordd ychwanegol werthfawr ac effeithiol o hyrwyddo lles, mewn ffyrdd arloesol a hygyrch.

Defnyddir yr arolwg hwn i helpu i lywio cais am gyllid. Mae’r ymatebion yn anhysbys oni bai eich bod yn dewis darparu manylion cyswllt; bydd rhain yn cael eu storio ar wahân.

https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLSduaWAlPd7-jQ4GU6b9qbrvfY1BM8zPZdyS4C1gBKFPbzEw4A/viewform

We want to understand what helps people take part in arts and wellbeing activities, what gets in the way, and how access can be improved across both the Arts Centre and community settings. Your answers are anonymous and will help shape future activities delivered through Haul @ Aberystwyth Arts Centre and in local community spaces, groups, and partner organisations. This should take about 3-4 minutes.

Aberystwyth Arts Centre brings together communities with the very best arts experiences. They are one of Wales' largest and best-known venues, presenting a wide range of performances, films, exhibitions, classes and workshops across the year. Haul Arts in Health (established 1995) aims to promote the arts in health care at all levels, knowing that this can be a valuable and effective additional avenue for promoting well-being, in innovative and accessible ways.

This survey will be used to help inform a potential funding bid. Responses are anonymous unless you choose to provide contact details, which will be stored separately.

https://docs.google.com/forms/d/e/1FAIpQLScReIi0qJU-szQJKuaVEdbmqun7z68dn85K8TookPWifVGC5A/viewform

Tumble Babies has finished for the Summer but we will be back in September with Miss Emma.  Enjoy the sunshine!A dyna ni...
22/06/2026

Tumble Babies has finished for the Summer but we will be back in September with Miss Emma. Enjoy the sunshine!
A dyna ni! Mae Babis Twmblo wedi gorffen am yr wyliau Haf. Welwn ni chi ym mis Medi. Joiwch yr Haf!

🎭 Mae ceisiadau ar gyfer Connections 2027 AR AGOR!Ymunwch â gŵyl theatr ieuenctid y Theatr Genedlaethol a dewch â drama ...
10/06/2026

🎭 Mae ceisiadau ar gyfer Connections 2027 AR AGOR!

Ymunwch â gŵyl theatr ieuenctid y Theatr Genedlaethol a dewch â drama newydd sbon yn fyw ochr yn ochr â chwmnïau ieuenctid o bob cwr o'r DU.

Fel Theatr Bartner falch, rydym yn gyffrous i gefnogi grwpiau drwy gydol y flwyddyn a chynnal Gŵyl Connections Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn Wanwyn 2027.

📅 Dyddiadau Allweddol:
• Dyddiad cau ceisiadau: 29 Mehefin 2026
• Perfformiadau cartref: Chwefror–Ebrill 2027
• Gŵyl yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth: Gwanwyn 2027
• Gŵyl Theatr Genedlaethol: Mehefin–Gorffennaf 2027

💷 Ffi cyfranogi: £500 y cwmni (bwrsariaethau ar gael)

Yn barod i gymryd rhan? Gwnewch gais nawr drwy wefan y Theatr Genedlaethol.

🎭 Applications for Connections 2027 are now OPEN!

Join the National Theatre’s Youth Theatre festival and bring a brand-new play to life alongside youth companies from across the UK.

As a proud Partner Theatre, we're excited to support groups throughout the year and host the Aberystwyth Arts Centre Connections Festival in Spring 2027.

📅 Key Dates:
• Applications close: 29 June 2026
• Home performances: Feb–Apr 2027
• Festival at Aberystwyth Arts Centre: Spring 2027
• National Theatre Festival: Jun–Jul 2027

💷 Participation fee: £500 per company (bursaries available)

Ready to get involved? Apply now via the National Theatre website.

https://www.nationaltheatre.org.uk/learn-explore/connections/


📸

Address

Aberystwyth Arts Centre, Penglais Campus
Aberystwyth
SY233DE

Opening Hours

Monday 9am - 5:30pm
Tuesday 9am - 5:30pm
Wednesday 9am - 5:30pm
Thursday 9am - 5:30pm
Friday 9am - 4:30pm
Saturday 10am - 4pm

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Dysgu Creadigol / Creative Learning - Aberystwyth Arts Centre posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share