08/05/2026
‘Dyma wahoddiad i fynd yn s o w n d...’ / ‘S o w n d is an invitation to get stuck...’
Mae Sownd gan Manon Awst a Dylan Huw yn ddilyniant o dair stanza sy’n cyfuno deunyddiau organig a daearegol o ogledd Cymru a Fenis gydag ymyriadau geiriol, sonig a phensaernïol.
Gyda llwybr pren yn tywys ymwelwyr trwy’r gosodwaith, mae adlais yma o passerelle Fenis, llwybrau dros dro sy’n cael eu gosod mewn cyfnodau o lifogydd, a’r llwybrau sy’n ein galluogi i droedio tirweddau corsiog Cymru.
Ymdrochwch, myfyriwch, a phrofwch Sownd.
——
Sownd by Manon Awst + Dylan Huw is a sequence of stanzas combining organic and geological matter from north Wales and Venice with textual, sonic and architectural interventions.
As visitors are guided through the installation by a wooden boardwalk, there are echoes of Venice’s passarelle, wooden pathways constructed in times of emergency, and the raised paths that traverse Wales’ boggy landscapes.
Immerse yourself, reflect and experience Sownd.
——
Bydd Sownd: Manon Awst + Dylan Huw ar agor i’r cyhoedd o 9fed Mai tan 22ain Tachwedd fel rhan o’r 61eg Arddangosfa Gelf Ryngwladol – La Biennale di Venezia.
Mae Sownd wedi’i churadu gan Steffan Jones-Hughes ac mae’r prosiect yn cael ei gefnogi gan ac . Cyngor Celfyddydau Cymru a Chelfyddydau Rhyngwladol Cymru sy’n comisiynu a rheoli Cymru yn Fenis gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a’r Cyngor Prydeinig.
——
Sownd: Manon Awst + Dylan Huw is open to the public from 9th May to 22nd November as part of the 61st International Art Exhibition – La Biennale di Venezia.
Sownd is curated by Steffan Jones-Hughes and the project is supported by and . Cymru yn Fenis/Wales in Venice is commissioned and managed by Arts Council of Wales and Wales Arts International with support and collaboration from the Welsh Government and British Council.