Côr Godre’r Aran

Côr Godre’r Aran Croeso i dudalen swyddogol Côr Godre’r Aran. Welcome to Côr Godre’r Aran official page.

Oherwydd llwyddiant ein Cyngerdd Blynyddol yn Y Bala, mae’n arferiad gan y côr i gyfrannu a***n i elusennau o ddewis yr ...
10/03/2026

Oherwydd llwyddiant ein Cyngerdd Blynyddol yn Y Bala, mae’n arferiad gan y côr i gyfrannu a***n i elusennau o ddewis yr aelodau.

Eleni, un o’r rheiny yw Cartref Cefn Rodyn yn Nolgellau a chyflwynodd Eirian Owen siec o £1000 ar ran y côr i Reolwr a Rheolwr Cynorthwyol y cartref, Tracey Gardner a Pia Co**ha. Defnyddir yr a***n i sicrhau gwasanaeth unigolion sy’n gyson yn ymweld â Chefn Rodyn i ddiddannu’r preswylwyr mewn amrywiol ffyrdd.

Cyfranwyd £1000 hefyd i uned Seren Wîb i gynorthwyo cleifion sy’n dioddef o gancr yn Ysbyty Maelor ac Ysbyty Glan Clwyd.

Mi fydd ein cyngerdd nesaf yn Rhuthun ar 7fed o Fawrth yn Theatr John Ambrose! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🎶Our next concert will be in Ruthi...
21/02/2026

Mi fydd ein cyngerdd nesaf yn Rhuthun ar 7fed o Fawrth yn Theatr John Ambrose! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🎶
Our next concert will be in Ruthin on the 7th March at John Ambrose Theatre! 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🎶

Dyna ein Cyngerdd Blynyddol yn Y Bala drosodd am flwyddyn arall. Pleser mawr  oedd gweld y Ganolfan Hamdden yn llawn unw...
08/12/2025

Dyna ein Cyngerdd Blynyddol yn Y Bala drosodd am flwyddyn arall. Pleser mawr oedd gweld y Ganolfan Hamdden yn llawn unwaith eto, a mawr ydy ein diolch i'n cynulleidfa frwdfrydig a theyrngar am ein cefnogi, flwyddyn ar ôl blwyddyn. Rydech chi'n werth y byd! Ryden ni hefyd yn gwerthfawrogi cyfraniad ein noddwyr hael. Roedd perfformiadau Erin Rossington ac Iwan Llewelyn Jones yn ysgubol - diolch o galon i chi eich dau. Ac, fel pwt o arweinydd, rhaid i mi gael diolch i holl aelodau'r côr am eu dyfalbarhad, eu teyrngarwch a'u hysfa i wneud eu gorau glas. Diolch, bob un ohonoch.

Saturday's Annual Concert in Bala was another outstanding success, thanks to our wonderful audience who support us each year, our generous sponsors, and the two outstanding guests, Erin Rossington and Iwan Llewelyn Jones. My personal gratitude goes to each member of the choir for their continued support at rehearsals, week upon week and for their enthusiastic desire to give of their very best.

Sylwch mai am SAITH o’r gloch bydd y cyngerdd yn cychwyn nos Sadwrn.
04/12/2025

Sylwch mai am SAITH o’r gloch bydd y cyngerdd yn cychwyn nos Sadwrn.

Wythnos i fynd tan ein cyngerdd! A week to go until our concert!
29/11/2025

Wythnos i fynd tan ein cyngerdd!
A week to go until our concert!

19/11/2025
Ar ôl yr ymarfer nos Iau ddiwethaf cafwyd digwyddiad i ddathlu carreg filltir go arbennig! Dathliad o 50 o flynyddoedd i...
28/10/2025

Ar ôl yr ymarfer nos Iau ddiwethaf cafwyd digwyddiad i ddathlu carreg filltir go arbennig!

Dathliad o 50 o flynyddoedd i Eirian fod wrth y llyw! 🥳

Cyfnod prysur a llwyddiannus dros ben o’r teithiau di-ri, cystadlu brwd a chyngherddau arbennig!

Llongyfarchiadau mawr Eirian - a diolch!!

Dyma luniau o’r noson gan gynnwys llun gyda llywyddion anrhydeddus y côr.

Mi fydd y dathlu yn parhau gyda’n cyngerdd blynyddol ar Ragfyr 6ed! 🎹

Diolch i Arwel am drefnu’r cyfan.

📣 Tocynnau nawr ar gael! Tickets are now available!
17/10/2025

📣 Tocynnau nawr ar gael! Tickets are now available!

Gŵyl MOMA Machynlleth - 19 Awst 2025
22/08/2025

Gŵyl MOMA Machynlleth - 19 Awst 2025

Cyngerdd arbennig neithiwr! Brilliant concert at MOMA Machynlleth last night!
20/08/2025

Cyngerdd arbennig neithiwr! Brilliant concert at MOMA Machynlleth last night!

Edrych ymlaen am ein cyngerdd yn MOMA Machynlleth nos fory gyda Trystan a & Jess Robinson Cynan. Looking forward to a se...
18/08/2025

Edrych ymlaen am ein cyngerdd yn MOMA Machynlleth nos fory gyda Trystan a & Jess Robinson Cynan.

Looking forward to a sell out concert tomorrow night at MOMA Machynlleth.

Edrych 'mlan unweth yn rhagor i ganu yng
Ngŵyl MOMA Machynlleth gyda un o gorau meibion gorau'r wlâd - Côr Godre'r Aran heb anghofio y soprano a ffrind ysgol gynradd Jess Robinson Cynan

Address

Llanuwchllyn
Llanuwchllyn

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Côr Godre’r Aran posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share

Category