Cor Meibion Llangwm

Cor Meibion Llangwm Cor Meibion o Ogledd Cymru. Male Voice Choir from North Wales

28/02/2026

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿
Edrychwn ymlaen am noson Cawl a Chan nos sadwrn yma am 8yh gyda Cor Meibion Llangwm

27/02/2026
NOS FORY!!Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn i gael cwmni Côr Meibion Carnguwch yn y Gorlan Ddiwylliant yn Llangwm nos ...
12/02/2026

NOS FORY!!
Rydym yn edrych ymlaen yn fawr iawn i gael cwmni Côr Meibion Carnguwch yn y Gorlan Ddiwylliant yn Llangwm nos fory!!

Roedd yn fraint cael canu yn Eglwys Crist, Y Bala nos Sadwrn diwethaf gyda Chôr Lehtse Chamber Choir o Estonia. Fe ganod...
30/09/2025

Roedd yn fraint cael canu yn Eglwys Crist, Y Bala nos Sadwrn diwethaf gyda Chôr Lehtse Chamber Choir o Estonia. Fe ganodd y ddau gôr eitemau yn unigol a cafwyd unawd gan Trebor Lloyd Evans. Bu’n brofiad i’r côr gael cyd-ganu cân o Estonia gyda nhw yn ogystal a chyd-ganu O Gymru yn Gymraeg. Diolch i bawb fu’n trefnu’r noson ac i bawb wnaeth gefnogi. Mae’n braf cael creu cysylltiadau newydd bob amser.

Roedd yn fraint gan y Côr gyflwyno rhodd o £2100 i Gofal Dydd Y Waen Day Care  / and Capel y Waen ddoe yn dilyn ein cyng...
28/09/2025

Roedd yn fraint gan y Côr gyflwyno rhodd o £2100 i Gofal Dydd Y Waen Day Care / and Capel y Waen ddoe yn dilyn ein cyngerdd yng Nghapel Jerwsalem, Cerrigydrudion gyda Trebor Lloyd Evans a Manon Celyn nol ym mis Gorffennaf.
Cafodd Einion a Trystan bnawn braf iawn yn gweld y gwaith ysbrydoledig sydd yn digwydd yno.
Diolch i bawb wnaeth gefnogi’r cyngerdd tuag at achos mor arbennig.
Gwelir Einion ein Cadeirydd yn y llun yn cyflwyno siec i Dr Mari Lloyd-Williams o elusen Gofal Dydd Capel Y Waen.

Diolch i chi i holl aelodau   am roi perfformiad penigamp ar lwyfan   Wrecsam brynhawn Sadwrn!! Ymlaen i Breseli !
11/08/2025

Diolch i chi i holl aelodau am roi perfformiad penigamp ar lwyfan Wrecsam brynhawn Sadwrn!! Ymlaen i Breseli !

🥉- Côr lleisiau tenor / basWedi mwynhau cystadlu yn yr Eisteddfod dros y penwythnos a chipio’r drydedd wobr! Llongyfarch...
11/08/2025

🥉- Côr lleisiau tenor / bas
Wedi mwynhau cystadlu yn yr Eisteddfod dros y penwythnos a chipio’r drydedd wobr!
Llongyfarchiadau i bawb o’r ardal a fu’n cystadlu yn ystod yr wythnos ac yn enwedig i Gôr Aelwyd Llangwm ac i Gôr Cerdd Dant Merched Llangwm!!
Byddwn yn cymryd rhan mewn cyngerdd o eitemau’r Eisteddfod yn Ysgol Godre’r Berwyn yng nghanol mis Medi ac mewn cyngerdd yn Eglwys Crist Y Bala ddiwedd mis Medi!

Prysurdeb mawr yn Llangwm at Eisteddfod Wrecsam! Does ‘run noson rydd yn
29/07/2025

Prysurdeb mawr yn Llangwm at Eisteddfod Wrecsam! Does ‘run noson rydd yn

Mae’r Gorlan Ddiwylliant yn Llangwm wedi bod yn fwrlwm o weithgaredd dros yr wythnosau diwethaf, gyda nifer o fudiadau lleol yn defnyddio’r cyfleusterau i ymarfer a pharatoi ar gyfer cystadlu yn yr Eisteddfod Genedlaethol sy’n cael ei chynnal yn Wrecsam eleni.

Cyngerdd HENO yng Nghapel Jerwsalem gyda Trebor Lloyd Evans a Manon Celyn er budd Gofal Dydd y Waen. Mae tocynnau ar gae...
17/07/2025

Cyngerdd HENO yng Nghapel Jerwsalem gyda Trebor Lloyd Evans a Manon Celyn er budd Gofal Dydd y Waen.
Mae tocynnau ar gael gan aelodau’r côr, Siop Uwchaled a byd rhai ar gael wrth y drws.
Bydd posib rhoi casgliad tuag at yr elusen wrth y drws hefyd!
Welwn ni chi yno!!!

13/07/2025

Cofiwch fachu eich tocyn ar gyfer y cyngerdd!!
Tocynnau ar gael i'w prynu gan aelodau'r côr neu yn Siop Uwchaled.
Dewch i gefnogi elusen teilwng iawn.
Gofal Dydd Y Waen Day Care / and Capel y Waen

Address

LL210RA
Llangwm
LL210RA

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cor Meibion Llangwm posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share

Category