Bois y Castell

Bois y Castell Côr Meibion Bois y Castell o Landeilo, Dyffryn Tywi

Mae ymarferion y bois wedi ail ddechrau, ac mae’n braf iawn gweld wynebau newydd yn ymuno, ynghyd ag ambell aelod yn dyc...
02/09/2026

Mae ymarferion y bois wedi ail ddechrau, ac mae’n braf iawn gweld wynebau newydd yn ymuno, ynghyd ag ambell aelod yn dychwelyd i’r côr!

Mae hon yn flwyddyn arbennig i ni wrth i’r côr ddathlu’r 30. Mae’r bois eisoes yn paratoi ar gyfer codi’r to mewn cyngerdd arbennig yng nghwmni Trystan ar 28ain Tachwedd.

Mae croeso cynnes iawn i aelodau newydd ymuno â ni. Dewch draw a rhoi cynnig arni!

Mae cymdeithasu’n rhan bwysig o fywyd pob côr! Yn gynharach yn y mis, aeth criw o’r bois am brynhawn allan yn y Mwmbwls ...
27/08/2026

Mae cymdeithasu’n rhan bwysig o fywyd pob côr! Yn gynharach yn y mis, aeth criw o’r bois am brynhawn allan yn y Mwmbwls ar gyfer ein ‘trip haf’. Syniad Ed oedd y crysau!

Bydd ymarferion y côr yn ailddechrau cyn hir, ac mae croeso cynnes i aelodau newydd ymuno unrhyw bryd.

Mae eleni’n flwyddyn fawr i Fois y Castell wrth inni ddathlu 30 mlynedd ers sefydlu’r côr. Cofiwch am ein cyngerdd mawreddog nos Sadwrn, 28 Tachwedd, yng Nghapel Newydd, Llandeilo. Mae’r holl fanylion ar y poster ar ein tudalen – dewch i ddathlu gyda ni!

30 mlynedd yn ôl eleni, sefydlwyd Bois y Castell i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr yn Llandeilo. A ni ym...
28/07/2026

30 mlynedd yn ôl eleni, sefydlwyd Bois y Castell i gystadlu yn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr yn Llandeilo. A ni yma o hyd!

I ddathlu’r garreg filltir bwysig hon, rydym yn cynnal cyngerdd arbennig yng nghwmni’r anhygoel Trystan

Ceir yr holl fanylion isod ⬇️

Archebwch eich tocynnau nawr ac ymunwch â ni am noson wych o ganu a dathlu!

Cafwyd brynhawn hyfryd iawn yn canu ym mhriodas Lloyd a Manon yn Eglwys Cwmifor heddiw. Diolch o galon i’r par priod am ...
27/06/2026

Cafwyd brynhawn hyfryd iawn yn canu ym mhriodas Lloyd a Manon yn Eglwys Cwmifor heddiw.

Diolch o galon i’r par priod am y gwahoddiad caredig, a phob dymuniad da wrth iddyn nhw ddechrau eu bywyd priodasol. Ni’n siŵr bod digon o win Beaujolais wedi’i yfed! 🍷😀

Mawr ddiolch hefyd i Nia Clwyd am arwain a chadw trefn ar y bois, ac i’m cyfeilyddes wych, Sioned 👏 👏

02/03/2026
01/03/2026
01/03/2026

Safwn yn y Bwlch dros Gymru 🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿

Dydd Gŵyl Dewi Hapus i bawb 🌼

Am noson wirioneddol arbennig neithiwr yn ein Cawl a Chân yn Neuadd yr Hen Farchnad, Llandeilo. Roedd hi’n bleser cael m...
01/03/2026

Am noson wirioneddol arbennig neithiwr yn ein Cawl a Chân yn Neuadd yr Hen Farchnad, Llandeilo.

Roedd hi’n bleser cael mwynhau talentau lleol ac unawdwyr gwych – Martha Harris, Daniel O’Callaghan ac Iolo Roberts.

Diolch o galon i’n harweinyddes wych Nia Clwyd ac i’n cyfeilyddes ffantastig Sioned Beynon, ac i bawb a ddaeth i’n cefnogi wrth i ni godi a***n at elusen Alzheimer’s UK.

Eleni mae’r Côr yn dathlu 30 mlynedd – ac mae croeso mawr i aelodau newydd ymuno â ni!

Cegin Diod

Y Bois yn fishi yn ymarfer ar gyfer ein Noson Cawl a Chân ar 28ain Chwefror yn Neuadd yr Hen Farchnad, Llandeilo. Fel ch...
12/02/2026

Y Bois yn fishi yn ymarfer ar gyfer ein Noson Cawl a Chân ar 28ain Chwefror yn Neuadd yr Hen Farchnad, Llandeilo.

Fel chi’n gweld, nid pawb wedi dysgu’r geiriau eto, ond bydd popeth yn iawn ar y noson! Dim llawer o docynnau ar ôl – bachwch nhw tra maen nhw dal ar gael.

Cegin Diod

Address

Llandeilo

Website

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Bois y Castell posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share

Category